Heddiw, yn 1329 bu farw Robert the Bruce ... (g.1274)
Mae’r hen goel am Robert a’r pry copyn yn gyfarwydd ... a phwysig. Dywedir i Robert, ar ôl cael ei orchfygu droeon ar dro, ffoi, a chael nodded mewn ogof - er mai rhai yn mynnu mae mewn hen ysgubor y bu’r brenin yn cuddio - nid yw hynny’n allweddol i’r stori. ‘Roedd Robert wedi llwyr ymlâdd - digalon a diflas ydoedd. Gwelodd yno bry copyn yn ceisio gwau ei we. ‘Roedd y we yn ddiogel mewn un man, ond ‘roedd rhaid angori pen arall y we yn ddiogel hefyd. Ceisiodd y pry copyn wneud hynny, a methu. Ceisiodd eilwaith, a thrachefn, ond yn aflwyddiannus hyd y degfed tro, pryd llwyddodd. Wel, meddyliodd Robert, os llwyddodd y pry copyn, ar ôl methu gynifer o weithiau, pam na allaf innau lwyddo. Aeth yn ôl i’r frwydr, wynebodd ei elynion, a gorchfygodd. Hen goel; neges oesol gyfoes: dalifyndrwydd. Nid yw dal ati’n ddigon, rhaid dal ati i ddal ati. 90% of success, meddai Woody Allen (g.1935) is turning up ... Dal ati; daliwn ati - ti a fi - i ddal ati i ddal ati.
(OLlE)