O ganlyniad i bwysau adolygu ac arholiadau, cwmni bychan oeddem heno - 5. Bychan, ond nid eiddil. Brwd a buddiol bu’r trafod a’r mwynhau wrth fynd i’r afael â thema’r mis hwn: ‘10’. ‘Roedd heno, i raddau, yn barhad o’r Oedfa Deulu bore ddoe (5/6), ac yn wir, ‘roedd y PIMSwyr oedd yn bresennol yn yr Oedfa honno yn gwibio trwy’r gwaith o osod y 10 Gorchymyn yn eu trefn gywir! Paratowyd rhestr o’r 10 Gorchymyn, ond ‘roeddent yn gymysg oll i gyd! Wedi cael nhw yn ôl i’w trefn, bu’n rhaid wynebu a’r rhestr o ddeg gwahanol sefyllfa. Y dasg: trafod a phenderfynu pa orchymyn neu orchmynion oedd yn cael eu cadw neu dorri yn y sefyllfa honno. ‘Roedd ambell sefyllfa’n ddigon dyrys, ond rhyngom â’n gilydd, wedi cytuno ac anghytuno, a chytuno i anghytuno daethom i benllanw’r noson: paratoi ein haralleiriad ein hunain o’r 10 Gorchymyn. Cafodd y merched Elin, Efa ac Amy y 6 Gorchymyn gyntaf, a’r bechgyn, Connor a Gruffudd y 4 Orchymyn terfynol. Dyma ffrwyth eu gwaith:
- Addolwch Dduw a neb arall.
- Meddyliwch am beth mae Duw eisiau yn gyntaf oll.
- Gwnewch bopeth yn enw Duw.
- Ewch i’r capel bob dydd Sul.
- Byddwch yn neis i’ch rhieni.
- Byddwch yn garedig i bawb.
- Gofalwch am eich teulu a’ch ffrindiau.
- Byddwch yn siŵr i gael caniatâd cyn benthyg eiddo.
- Byddwch yn onest.
- Byddwch yn ddiolchgar a gwerthfawrogol.
Da'r cyfarfod hwn. Er mai bychan y cwmni, am bethau mawr bu ein trafodaeth. Diolch i’r 5. Haeddai bob un 10 allan o 10!