Heddiw, yn 1337 bu farw’r dywysoges Gwenllian (g.1282) ...
Lleian o lin brenhinoedd, un a’i bru’n
Ddi-barhad drwy’r oesoedd;
O’i chrud carcharor ydoedd
Ond o’i chrud ein Dechrau oedd.
Gerallt Lloyd Owen (1914-2014)
Daeth Iesu atom i’n gollwng yn rhydd; boed i’w oleuni lewyrchu ar bawb sy’n garcharorion; a boed i Iesu ein cynorthwyo, trwy gyfiawnder a chymod i ymgyrraedd at wir ryddid plant Duw.
(OLlE)