Heddiw, yn 1970, bu farw’r nofelydd Edward Morgan Forster (g.1879): There lies at the back of every creed something hard for which the worshiper may one day be required to suffer. ‘Roedd Forester yn iawn, mae ein ffydd yn gosod rhwymedigaethau arnom. Ar Galfaria, rhoddodd Iesu ei hun i ni; a ninnau felly'n rhoi ein hunain iddo Ef. Annigonol yw canu:
Cymer, Iesu, fi fel ‘rydwyf (William Williams, 1717-91) ...
heb ein bod ni hefyd yn barod i ganu:
Derbyniaf Iesu fel yr wyf ... (Lewis Hartsough, 1828-1919) ...
Cariad yn rhoi, cariad yn derbyn.
(OLlE)