… dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant … A dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, "Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae’r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon."
(Sechareia 1:8,11 BCN)
… i ymgofrestru ynghyd â Mair ei ddyweddi; ac yr oedd hi’n feichiog. (Luc 2:5 BCN)
Pwy yn ei iawn bwyll buasai’n mynd nawr?
Gan ystyried y beichiogrwydd annisgwyl, gellid deall Mair yn sôn am freuddwydion ac angylion - buasai’r fath newid byd yn ddigon i ddrysu’r callaf ohonom. Bu’r truan braidd mewn breuddwyd ers sylweddoli ei chyflwr.
Ond Joseff? Cymeriad y cam araf fu Joseff erioed. Tŵr bro: cadw’r Gyfraith, cynnal y drefn, glynu wrth y rheolau. Wedi clywed am gyflwr Mair, penderfynodd dorri’r dyweddïad yn dawel, rhag i neb wybod. Ond, anodd yw gwneud rhywbeth mawr yn dawel mewn pentre’ bach. ‘Roedd pawb yn gwybod a phawb yn deall. Wedyn, tro pedol, a’r pentref yn syfrdan: cymerodd Mair yn wraig iddo. Gofynnais iddo, "Joseff, beth am ofynion y Gyfraith? Beth am y rheolau?" Atebodd "Mae un sy’n rheoli rheol." Dyna’r cyfan o esboniad a gefais ganddo. Am bobl ni all neb wybod!
Erbyn hyn - â Mair mor agos at ei hamser - mae Joseff yn benderfynol o fynd i Fethlehem i’r cofrestru. Does dim synnwyr yn y peth.
Neithiwr, gefn trymedd nos aeth Joseff a Mair o Nasareth. Mae’n rhyfedd hebddynt.
Pob nos, mi af i chwilio’r gorwel amdanynt. Dim byd hyd yn hyn. Dim byd ond sŵn defaid, a sawr myrtwydd ar yr awel.