Salm 34:1-5
Un a oedd yn gyfan gwbl ymwybodol o ddaioni Duw yn awdur y Salm hon. Y mae perygl i ni fynd yn bobl anniolchgar. Y mae bendithion Duw yn dod mor gyson, ac yr ydym yn cynefino â hwynt.
Galwad ryfedd yw hon arnom i fawrygu’r ARGLWYDD. Y mae’n golygu mwy na mynegi ei fawredd, mewn rhyw ystyr golyga ei wneud yn fwy! Nid yn fwy ynddo’i hunan wrth gwrs, ond fe allwn wneud Duw yn fwy eglur yn ein deall ohono. Nid yw chwyddwydr yn gwneud y print fymryn yn fwy, ei wneud yn fwy i’r llygad y mae. Gwneud i’r pell edrych yn agosach a wna’r telesgop, a gwneud i’r anweledig ddod yn amlwg a wna’r microsgop, a dwyn rhywbeth i ffocws a wna lens camera. Yn yr ystyron hyn gallwn ninnau wneud Duw yn fwy, ei ddwyn yn agosach, gwneud yr anweledig yn weledig, a gosod yr hyn sydd ar y cyrion yn y ffocws: hyn oll yw diben yr Adfent.
F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)