Aeth pawb felly i'w gofrestru, pob un i'w dref ei hun. (Luc 2:3 BCN)
Mae’r pentref dan ei sang. Cofrestru. Daeth pobl o bell ac agos i Fethlehem gan ei bod nhw’n perthyn i’r bobl hyn ac i’r lle hwn.
Mae’n amlwg o liw fy nghroen, fy acen, fy nghreithiau nad ‘un ohonom’ mohonof. Dwi ddim yn perthyn i’r un man na neb. Tresmasu bues i erioed. Ond, dwi’n gryf, yn iach, ac yn barod i weithio am nesaf peth i ddim, felly mae ‘na werth i mi ymhob man - bydd Bethlehem ddim gwahanol i bob pentref arall.
Am heno, dwi’n hapus: stabl, gwellt; gwres yr anifeiliaid; a chornel dawel, dywyll i gael cysgu. Heno, ein lle ni yw hwn, yr anifeiliaid a fi.
Felly pan mae’r drws yn agor, dwi’n anfodlon. Bydd rhaid codi a checru a chega; efallai dyrnu a chicio a brathu i gadw fy lle … ac mae dau ohonynt. Palff mawr o ddyn … a … merch ifanc; beichiog iawn.
Rhwbia’r ych ei ben mawr yn erbyn gwaelod fy nghoes, ac mi wthiaf yn ddyfnach i’r gwellt, a’r cysgodion. Mae digon o le ‘ma.
(OLlE)