'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Der Schwebende gan Ernst Barlach (1870-1938)
Yn y cyntaf o’n cyfarfodydd Adfent buom yn trafod bywyd a gwaith artist a drodd yn heddychwraig yn dilyn ei phrofiad o’r Rhyfel Mawr: Käthe Kollwitz (1867-1945). Lladdwyd ei mab ieuengaf, Peter ar faes y gad ym mis Hydref 1914.
Yr amser cinio hwnnw cawsom drafodaeth fuddiol, a bendith yng nghwmni’n gilydd. Dros ginio, rhannwyd ychydig wybodaeth a’m sbardunodd i baratoi’r myfyrdod hwn heddiw.
Dyma Der Schwebende; The Hovering yn Saesneg (Dychmygwch aderyn yn sefyll ar y gwynt) gan Ernst Barlach (1870-1938). Adwaenir y cerflun, yn syml, fel Angel Barlach. Bu Barlach ynfilwr parod yn y Rhyfel Mawr ond yn sgil ei brofiad yn y rhyfel hwnnw, fe drodd yn heddychwr. Fel Kollwitz, ceisiodd Barlach yn, a thrwy gyfrwng ei gelfyddyd ymateb i erchylltra a dinistr rhyfel.
Comisiynwyd Der Schwebende (Angel Barlach) yn 1926 i nodi 700 canmlwyddiant Eglwys Gadeiriol Brotestannaidd Güstrow. Cerflun ydyw yn cynrychioli mam yn edrych i gyfeiriad meysydd rhyfel Flanders mewn hiraeth parhaol am y mab a gollwyd ganddi. Mae wyneb y cerflun yn seiliedig ar wyneb Käthe Kollwitz.
Käthe Kollwitz ac 'Angel Barlach'
Bu gwrthwynebiad mawr i’r cerflun hwn a than y Natsïaid fe’i hystyriwyd yn Entartete Kunst (Celfyddyd Ddirywiedig). Symudwyd y cerflun o’r eglwys ac yn y 1940au fe’i toddwyd a defnyddiwyd yr efydd i ddibenion y rhyfel.
Yn rhyfeddol, ‘roedd y mowld plaster y bwriwyd y cerflun efydd gwreiddiol ynddo yn dal yn y ffwndri ym Merlin. Gan lawn sylweddoli y byddai’r Natsïaid yn sicr o ddinistrio’r mowld, gofalodd ffrindiau a chefnogwyr Barlach fod ail gerflun yn cael ei greu. Cuddiwyd hwnnw ger Lüneberg, pentref yng ngogledd yr Almaen. Rywdro yn ystod y rhyfel fe ddinistriwyd y mowld. Heddiw mae’r cerflun ar gadw mewn eglwys yn Cologne. Mae Angel Barlach yn aros uwchben carreg ac arni’r dyddiadau 1914-1918 a 1939-1945. Mae Der Schwebende yn symbol i gynnal baich colledion a marwolaethau cyfnod y Natsïaid hefyd yn ogystal â’r Rhyfel Mawr. Diwedd y stori yw bod copi arall o Angel Barlach wedi ei greu yn 1981. Mae’r angel hwnnw yn ôl yn Güstrow.
Yn 1981 ar ymweliad â Gwladwriaeth y Dwyrain (‘roedd y Almaen yn dal yn wlad ranedig bryd hynny), fel arwydd o gymod, gofynnodd Helmut Schmidt (1918-2015) os oedd modd iddo fynd gyda Erich Honecker (1912-1994) i Eglwys Gadeiriol Güstrow a sefyll gydag ef yng nghysgod Der Schwebende. Cytunwyd, ac yno, fel ymateb i groeso Honecker, meddai Schmidt: I would like to thank you very much for your kind words of welcome. As you said, Barlach is indeed part of our common memory of the past. May I add, that Barlach could also stand as a representative of our shared and common future. Ym mis Tachwedd, 1989 gwireddwyd y dymuniad hwnnw am our shared and common future.
Yn 2014 rhoddwyd benthyg Der Schwebende i’r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ar gyfer arddangosfa yn olrhain hanes yr Almaen. (Germany: memories of a nation 16/10/2014-25/1/2015). Ar ran cynulleidfa Eglwys Gadeiriol Güstrow, dywedodd Pastor Christian Höser hyn: "Mae cymod yn thema gyson yn ein gwlad. Ond heddiw mae angen y thema honno ar Ewrop hefyd: dyna pam y mae’n bwysig ein bod yn rhoi’r Angel i Lundain."
2016: mae angen cymod yn Ewrop, a ledled byd. Mynnai Barlach fod Der Schwebende yn fynegiant o’r hyn a ddylai ein hymateb fod i ryfel a rhyfela: Erinnerung und innere Schau: Cofio a Hunanholi. Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn aeth heibio, gwyddom na fu erioed fwy o angen i glywed a chyhoeddi neges Angel Barlach.