Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (5): Teulu Iesu o Nasareth (Marc 3: 31-35)
Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf yng nghyfnod cwymp Jerwsalem a’r Deml. Bu i’r Iddewon wrthryfela yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig; gan fod Duw o’u plaid, onid oedd buddugoliaeth yn sicr? Cafwyd siom a cholledion; dinistriwyd y Deml. Pam ddigwyddodd hyn? Rhaid oedd cynnig atebion. Wedi cwymp Jerwsalem, dim ond y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol oedd yn weddill. Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem; rhaid oedd cael y bobl, o’r newydd, i dderbyn a bod yn ufudd i’r Gyfraith honno. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw mewn cnawd - Iesu Grist - oedd dinistr y Deml. Iddynt hwy, rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges cariad Iesu Grist. Wrth wraidd hyn i gyd oedd y ddealltwriaeth o natur Duw.
Ym Mhennod 3 down i gysylltiad â theulu Iesu am y tro cyntaf. Nid dim ond cofnodi hanes a wna Marc; mae ganddo agenda! Sylwer ar y peth cyntaf y dywed Marc am deulu Iesu: Daeth i’r tŷ; a dyma’r dyrfa’n ymgasglu unwaith eto ... A phan glywodd ei deulu, aethant allan i’w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, ‘Y mae wedi colli arno’i hun.’ (Marc 3:20). Daeth Iesu i mewn; â’r teulu allan. Pam mae hyn yn bwysig? Yn gyntaf, A daeth ei fam ef a’i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i’w alw (Marc 3: 31) ... ac yn ail, a chan edrych (Iesu) ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o’i gwmpas ... (Marc 3: 34). Mae gan Iesu gylch o bobl o’i gwmpas - yn gasglwyr trethi a phublicanod; saif oddi fewn i’r cylch hwnnw. Cylch newydd yw. Mae mam, brodyr a chwiorydd Iesu yn sefyll y tu allan i’r cylch newydd hwn: Yr oedd tyrfa’n eistedd o’i amgylch, a meddent wrtho, Dacw dy fam a’th frodyr a chwiorydd y tu allan yn dy geisio. (Marc 3: 32) Galwant arno i ddod allan o’r cylch a dychwelyd atynt. Ymateb Iesu gyda chwestiwn: ‘Pwy yw fy mam i a’m brodyr?’ A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o’i gwmpas, dywedodd, Dyma fy mam a’m brodyr i. Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam. (Marc 3: 34) Mae Iesu’n gwrthod camu allan o’r cylch newydd a dychwelyd at yr hen. Tra bod yr hen deulu tu allan, mae Iesu yng nghanol cylch newydd o famau, brodyr a chwiorydd. Ni fydd yn camu allan o’r cylch newydd; Iesu ffurfiodd y cylch o gariad ac mewn cariad. Y cwestiwn yw a fydd yr hen deulu yn camu i mewn i gylch y newydd ai peidio?
2016. Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn; bu i’r hen ffordd o grefydda ddarfod. Rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd ddoe, er mwyn darganfod y ffordd ymlaen i yfory. Dinistriwyd yr hen Deml, meddai’r Iddewon Cristnogol, gan iddi wrthod Cyfraith Cariad Iesu o Nasareth. Sefydla Iesu deulu newydd nad yw’n dibynnu ar waed a chnawd. Teulu Duw yng Nghrist yw’r bobl sydd yn gwneud ewyllys Duw. Nid mater o waed yw bod yn un o bobl Dduw, yn hytrach, mater o ymroddiad ac ymroi yw: Pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam. Mynnai Marc a’r Iddewon Cristnogol y byddai Iddewon Jerwsalem, o ddarganfod Iesu Grist, a chael eu darganfod ganddo, yn darganfod ystyr newydd i deulu. Yr unig ymateb i lanastr a thor calon y flwyddyn 70 oedd eistedd o gwmpas Iesu, a darganfod ystyr newydd i frawdgarwch, i deulu a pherthynas, ac i ddyfnder newydd o gymdeithas. A ninnau? Onid cymhlethdod ein problemau sy’n ein parlysu heddiw? Onid yw’r problemau hynny yn tarddu o’n hawydd i gadw Iesu o fewn ein cylch cyfyng ein hunain? Yn rhy aml, oni ddaethom a chan sefyll y tu allan anfonasom ato i’w alw ’nôl atom. Rhan fechan iawn o’i gylch mawr Ef ac o Deulu Duw trwy’r byd ydym ni. Mae angen i ni ddarganfod y symlrwydd sydd yng Nghrist: y mae pob un sydd ynddo Ef yn yr un teulu. Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i fi, ac yn chwaer, ac yn fam.
One touch of nature makes the whole world kin, meddai William Shakespeare (1564-1616; Troilus And Cressida Act 3, Golygfa 3, 169-179). Tebyg y byddai Marc am newid y frawddeg honno: One touch of Christ makes the whole world kin. Ni all neb garu Crist heb garu pawb arall sydd yn caru Crist.
Hanfod bod yn Gristion heddiw yw chwilio am y teulu.