Grawys 2016: Ffydd a Thrais 3:
... ‘roedd Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun (2 Corinthiaid 5:19)
Yn sgil yr ymosodiadau ym Mharis (13/11/2015), mynnodd y Prif Weinidog, David Cameron, bod yn rhaid i’r Gorllewin wynebu a goresgyn ideoleg anfad: we must confront and defeat an evil ideology. Mae cyfrifoldeb ar ddiwinyddion ac athronwyr Mwslimaidd, arweinwyr crefyddol a chymunedol, meddai, i herio a gwyrdroi athrawiaeth yr eithafwyr Islamaidd. Beth am y gweddill ohonom? Beth yw ein cyfrifoldeb ni?
Beth yw ideoleg? System o syniadau sy’n gynnyrch delfrydau a gwerthoedd y bobl sy’n ei harddel, a hefyd yn hyrwyddo eu gwerthoedd a’i delfrydau. Sut mae goresgyn ideoleg? Gall mesurau diogelwch atal gweithgarwch y sawl sydd yn ei harddel, ac yn fodlon aberthu eu hunain ac eraill trosti, ond nid digon hynny. I wynebu’r ideoleg rhaid ei herio a’i goresgyn. Dim ond ideoleg all oresgyn ideoleg. Goresgynnir ideoleg gyfyng, dinistriol gan ideoleg amgenach ac adeiladol. Yn anffodus, arswyda’r Gorllewin bellach rhag unrhyw a phob ideoleg. Mae’r syniad o berson yn gosod ei fywyd ar allor gwasanaeth argyhoeddiad, heb sôn am fod yn barod i farw dros yr argyhoeddiad hwnnw, yn gwbl estron. Arswydwn rhagddo! Bu Al Qa’eda, ac mae ISIS bellach, yn gwbl argyhoeddedig mai gwacter ysbrydol sydd wrth wraidd a chalon y Gorllewin materol. Eu bwriad yw llenwi’r gwacter â’u hideoleg hwy. Gwyddom am y gwacter hwn. Ymateb yr Eglwys Gristnogol yn y Gorllewin mewn un o ddwy ffordd. Crëir ganddi naill ai fynegiant o’i chred sydd mor haearnaidd nes peri iddi fethu plygu o gwbl, neu fynegiant o’i chred sydd mor ystwyth nes peri iddi blygu, a phlygu i bob peth. Mae pwyslais yr Eglwys Gristnogol yng Nghymru, ers degawdau, wedi bod ar yr hyn a wnawn. A yw Cristnogaeth yn gweithio? A yw ffydd ar waith? A yw pobl ffydd ar waith yn mynd i’r afael â thlodi, yn lleol a byd eang? A ydym ar waith ymhlith y difreintiedig ... yn amgylcheddol ... yn creu a chynnal undod eglwysig a chymunedol? Un cwestiwn na ofynnir gennym, a heb ofyn y cwestiwn hwnnw mae gofyn ‘A yw Cristnogaeth yn gweithio?’ yn ofyn ofer yw: A yw Cristnogaeth yn wir? A ydy’r ffydd Gristnogol yn cynnig esboniad call o gyflwr y byd a’r natur ddynol? A chawn ynddi gyfrwng i wella’r byd ac adfer y natur ddynol i’w iawn a llawn dwf? Os yw Cristnogaeth yn wir, mae Cristnogaeth yn newid pob peth. Os yn wir, rhaid newid yn gyfan gwbl ein syniad am Dduw, am fywyd ac am bob peth. Os nad gwir Cristnogaeth, nid yw’n newid dim ar ddim. Os ydyw’n wir, gall Cristnogaeth lenwi’r gwacter sydd wrth wraidd a chalon y Gorllewin. Bu ein pwyslais, nid ar yr hyn a gredir ond ar yr hyn a wneir. Os mai mater o weithredoedd da yw ein ffydd, ni all wynebu, heb sôn am oresgyn, unrhyw ideoleg a ddaw ar ein cyfer.
Mae angen gweithredoedd da ac mae angen eglwysi lleol ar waith. Rhaid hefyd i’r eglwys sydd ar waith fod yn eglwys sydd yn ddygn addysgu ei phobl. Sôn am yr Ysgol yn Minny Street a wna Cofnodion 1884. Hyd heddiw, mae pobl Minny Street wrthi yn dysgu, a thyfu o dymor i dymor, o flwyddyn i flwyddyn. Rhaid i ni weithio a meddwl yn galed; rhaid wrth drafod agored, gonest ac at bwrpas. Rhaid wrth gredo; rhaid gwybod beth a gredwn, a pham. Dim ond hyn all gynnal pwysau ein gweithgarwch. Nid yw credo yn medru esbonio a diffinio Duw. Mynegiant yw ein credo o’r hyn a wyddom sy’n wir am Dduw, nid yr hyn oll sydd i wybod am Dduw. Ni all credo achub neb. Mae cytuno â chredo yn wahanol iawn i gael ein gweddnewid gan yr hyn a gredir. Mater ymenyddol yw cytuno â chredo; mynna gweddnewid ogwyddo ein byw tuag at Dduw. Gall ein hymennydd gyflawni'r naill, dim ond Duw all gyflawni’r llall. Heb gredo, blodau toredig ydym; heb wraidd a heb faeth. Heb faeth, gwywo a wnânt. Llywir a lliwir ein profiad crefyddol gan ein credo. Y credu sy’n llywio’r gwneud; nid y gwneud yn llywio’r credu. Credu, ac o’r herwydd gweithredu.... ‘roedd Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun (2 Corinthiaid 5:19) Credo yw hyn! Gwirionedd crefyddol a gredir ac a fynegir gan bobl Dduw. Nid oes tystiolaeth ddi-ben-draw i gredo. Nid oes modd ei brofi, dim ond mentro mewn ffydd fod y ffydd honno werth mentro arni. Peth peryglus yw dadlau o blaid credo! Mae hawlio lle i gredo yn agor y drws i gyhuddiadau o ragrith, culni, penboethni a dallbleidiaeth.
... we must confront and defeat an evil ideology. Portreadir yr eithafwyr Islamaidd fel gwallgofiaid. Cyfleus, ond anghywir! Nid gwallgofiaid mohonynt. Pobl ffydd ydynt sy’n barod a bodlon i ladd a chael eu lladd dros yr hyn a gredant. Ni all y Gorllewin wynebu a herio'r fath ideoleg. Dim ond pobl ffydd all wneud hyn. Yr unig ffordd i herio a goresgyn ideoleg wyrgam, wenwynig yw cynnig ideoleg amgenach, iachach. Dyma'r gwaith mwyaf pwysig, a’r gorchwyl dwysaf a wynebwn fel cymunedau ffydd ... y dasg fwyaf diddorol, bywiog ac anturus y gelwir arnom i’w chyflawni. Cyflwyno’r credo Cristnogol am yr hyn ydyw; datguddiad gwefreiddiol o’r gwirionedd am ddyn a’i dynged. Heb fynd i’r afael â’r dasg hon, mae pob peth arall a wnawn yn ddim amgen na pharhau i lanhau â’r tŷ ar dân!