Thema’r mis hwn yw ‘6’. Beth felly a wnelo'r Briodas yng Nghana â thema mis? Dyna’r union her a gawsom gan ein Gweinidog y bore hwn. Wedi croesawu’r plant a phlantos i’r Set Fawr i gyflwyno’i hadnodau, gofynnodd i’r bobl ifanc a’r oedolion i chwilio am hanes y Briodas yn Nghana yn Efengyl Ioan. Mewn byr amser - ag amryw wedi bellach wedi gweld a deall y cysylltiad rhwng y briodas â ‘6’ - ‘roedd y gyfrinach yn lledu trwy’r gynulleidfa: Yr oedd yno chwech o lestri carreg i ddal dŵr ... a phob un yn dal ugain neu ddeg ar hugain o alwyni ... (Ioan 2:6).
Gan i bawb gael y fath hwyl a bendith yn trafod y lluniau y bu Llŷr a Heledd yn sôn amdanynt yn yr Oedfa Foreol Gynnar (14/2), daeth Owain â llun heddiw. Llun o’r Briodas yn Nghana gan Paulo Veronse (1528-1588).
Dangoswyd copi bychan i’r plant, a gofyn iddynt chwilio am Iesu. Mae’r llun yn drwch o brysurdeb, yn fwrlwm o bobl, ond wedi pasio’r llun o law i law, a phob un â chyfle i syllu a chwilio ... ffeindiodd Ifan Iesu.
Er mawr ofid i bawb, dechreuodd Owain sôn am fesuriadau’r llun, a bod angen ychdig o fathamateg (gwyddom, un ac oll, nad mathamateg mo’i gryfder!). Ond, diolch byth gofynnodd am gymorth gan y plant a’r bobl ifanc. Dangosodd gopi o’r llun. Trawsfesur y copi hwn oedd 27cm. Hanner 27? Daeth yr ateb yn brydlon: 13.5cm. Tynnu llinell i fyny o’r pwynt hanner ffordd, ac yno ... yng nghanol y llun: Iesu. Tynnodd y Gweinidog ein sylw at ddwy linell letraws, a rheini hefyd ... yn canoli sylw ar Iesu.
Dyna’n syml neges gyntaf y bore: Iesu yn y canol. Ar ddechrau’r dydd, a’r ddechrau’r wythnos daethom ynghyd i baratoi’r lle canol i Iesu. Yng nghanol ein byw a’n bod, rhaid canolbwyntio ar Iesu.
‘Roedd neges arall gan y llun hwn! ‘Roedd pen Iesu 7cm o waelod y llun. Yn sydyn, syml mesurodd Owain 7cm i fyny o ben Iesu. Tynnwyd llinell lawr ar hyd y golofn bellaf, y naill ochr a’r llall. ‘Roedd pawb, o’r ieuengaf i'r hynaf, yn ofni bod Owain wedi drysu braidd, ond ... wele siâp tŷ! Canol y tŷ - 7cm o’r top a’r gwaelod, ac o’r naill ochr a’r llall - pen Iesu. Mae Paulo Veronse, gyda gofal mawr a bwriadol, wedi gosod Iesu yn union yng nghanol y ‘tŷ’. Dyma, mynnai’r Gweinidog oedd ail neges y llun: rhaid i Iesu gael y lle canol yn y ‘tŷ’ hwn - eglwys Minny Street. Rhaid i Iesu fod yng nghanol pob peth a wnawn. Os nad ydyw, ofer y cyfan!
Wedi canu emyn, aeth plant allan i’r festri at ei gwersi. Yn gydiol wrth ein cynllyn Grawys - Solvitur Ambulando - bu’r plant a phlantos yn dechrau ar ei hystyriaeth o daith fawr Moses.
(Mawr ein diolch i’r rheini sydd wedi ymgymryd â her y cynllun arbennig Solvitur Ambulando. Ceir manylion llawn ar ddiwedd y cofnod hwn).
Ail-gydio gwnaeth y gweddill ohonom yn y gyfres pregethau yn ystyried Efengyl Marc, a hynny o bersbectif y flwyddyn 70, pan gwympodd Jerwsalem a dinistriwyd y Deml gan fyddinoedd Rhufain. Hon oedd y bumed bregeth yn y gyfres, a throdd y Gweinidog at hanes mam a brodyr Iesu (Marc 3:31-35). Ym mhennod 3 down i gysylltiad â theulu Iesu am y tro cyntaf. Cyfeirir at ei fam a’i frodyr ond nid at Joseff. Gall ‘brodyr’ fod yn ymadrodd sy’n cynnwys perthnasau agos. Dywed Marc (ac ef yn unig) eu bod mor feiddgar a dweud fod Iesu wedi colli arno’i hun. Maent am ei atal, a mynd ag ef adref gyda hwy. Nid ydynt yn deall ystyr ei waith nac amcan ei genhadaeth. A daeth ei fam ef a’i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i’w alw (Marc 3: 31) Mae ei fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan i gylch newydd Iesu. Galwant arno i ddod allan o’r cylch newydd a dychwelyd at yr hen. Ond gan estyn ei law tuag at ei ddilynwyr (Mathew 12:49) dywed Iesu fod ei syniad o deulu bellach wedi ehangu’n fawr. Mae’n rhaid i’r cylch bach bellach dyn yn rhan o’r cylch mwy. Fel ei fam a’i frodyr gynt, ein tueddiad ninnau, awgrymodd y Gweinidog, yw ceisio cadw Iesu o fewn ein cylch cyfyng ein hunain - ein heglwys leol, ein henwad, ein traddodiad a’n diwylliant. Hynny, heb wir sylweddoli mai rhan fechan iawn ydym o’i gylch mawr ef ac o deulu Duw trwy’r byd.
Ysgrifennwyd Efengyl Marc i argyhoeddi Iddewon Jerwsalem fod rhaid iddynt nawr, a’r Deml yn sarn, dderbyn neges Iesu Grist: neges o gariad, cariad eithriadol beryglus. Mae’r Deml yng Nghymru’n sarn - mae’r hen ffordd o grefydda wedi darfod mewn gwirionedd. Yr ateb i’n hargyfwng? Yr un ateb ydyw a gynigwyd gan yr Iddewon Cristnogol i bobl y flwyddyn 70: Teulu. Sefydla Iesu deulu newydd nad yw’n dibynnu ar waed a chnawd. Teulu Duw yng Nghrist yw’r bobl sydd yn gwneud ewyllys Duw. Nid mater o waed yw bod yn un o bobl Dduw, yn hytrach, mater o ymroddiad ac ymroi yw: Pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam. Bellach, ni all neb garu Crist heb garu pawb arall sydd yn caru Crist.
Yn ôl ein harfer bellach yma’n Minny Street, nodir cyfnod y Grawys gyda chyfres benodol o bregethau gan y Gweinidog. Ein thema eleni yw ‘Ffydd a Thrais’. Wrth ddilyn newyddion y dydd, hawdd iawn ymollwng i ddigalondid; yn arbennig o glywed yr hyn a wna a dywed pobl yn enw crefydd. Canlyniad digalonni o wrando ar y newyddion yw ymddieithrio, ymdawelu, ymneilltuo ac anobeithio. Dyma fu testun ein sylw ym mhregethau agoriadol y gyfres (14/2); heno aethom i’r afael â gwrthdrawiad ideolegau.
Yn sgil yr ymosodiadau ym Mharis (13/11/2015), mynnodd y Prif Weinidog, David Cameron, bod yn rhaid i’r Gorllewin wynebu a goresgyn ideoleg anfad: we must confront and defeat an evil ideology. Sut mae goresgyn ideoleg? Dim ond ideoleg all oresgyn ideoleg. Goresgynnir ideoleg gyfyng, ddinistriol gan ideoleg amgenach ac adeiladol. Yn anffodus, arswyda’r Gorllewin bellach rhag unrhyw a phob ideoleg. Tuedd yr oes yw anwybyddu credo. Buchedd, gweithred, ffydd ar waith, meddir sydd yn bwysig. Bu pwyslais yr Eglwys Gristnogol yng Nghymru, ers degawdau ar yr hyn a wnawn: a yw Cristnogaeth yn gweithio? A yw ffydd ar waith? A yw pobl ffydd ar waith yn mynd i’r afael â thlodi, yn lleol a byd eang? A ydym ar waith ymhlith y difreintiedig ... yn amgylcheddol ... yn creu a chynnal undod eglwysig a chymunedol? Un cwestiwn na ofynnir gennym, a heb ofyn y cwestiwn hwnnw mae gofyn ‘A yw Cristnogaeth yn gweithio?’ yn ofyn ofer, yw: A yw Cristnogaeth yn wir? A ydy’r ffydd Gristnogol yn cynnig esboniad call o gyflwr y byd a’r natur ddynol? A chawn ynddi gyfrwng i wella’r byd ac adfer y natur ddynol i’w iawn a llawn dwf? Os yw Cristnogaeth yn wir, mae Cristnogaeth yn newid pob peth. Os yn wir, rhaid newid yn gyfan gwbl ein syniad am Dduw, am fywyd ac am bob peth. Os nad gwir Cristnogaeth, nid yw’n newid dim ar ddim. Os ydyw’n wir, gall Cristnogaeth lenwi’r gwacter sydd wrth wraidd a chalon y Gorllewin.
... we must confront and defeat an evil ideology. Portreadir yr eithafwyr Islamaidd fel gwallgofiaid. Nid gwallgofiaid mohonynt. Pobl ffydd ydynt sy’n barod a bodlon i ladd a chael eu lladd dros yr hyn a gredant. Ni all y Gorllewin wynebu a herio'r fath ideoleg. Dim ond pobl ffydd all wneud hyn. Yr unig ffordd i herio a goresgyn ideoleg wyrgam, wenwynig yw cynnig ideoleg amgenach, iachach. Dyma'r gwaith mwyaf pwysig a wynebwn fel cymunedau ffydd: cyflwyno’r credo Cristnogol am yr hyn ydyw; datguddiad gwefreiddiol o’r gwirionedd am ddyn a’i dynged.
Bu i’r gymdeithas barhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Diolch am fendithion y Sul.
Bydd Oedfaon y Sul nesaf dan arweiniad y Parchedig Jill-Hailey Harries (Abertawe). Gwyddom y cawn ganddi arweiniad meddylgar a phregethau gwerthfawr. Boed bendith.
‘Solvitur ambulando’, meddai Awstin Sant (c.354-430): ‘Datrysir y peth drwy gerdded’. Un o fendithion pennaf bywyd yw cerdded, ychwanegir bendith at fendith wrth gerdded mewn cwmni. ‘Roedd yr Americanwr Henry David Thoreau (1817-1862) yn gerddwr o fri. Awgrymai Thoreau fod y ferf ‘to saunter’ yn tarddu o Sainte Terre - y Wlad Sanctaidd. Yn y llyfr Wanderlust (2000; Penguin) - hanes cerdded - mae Rebecca Solnit (gan.1961) yn sôn am gerdded yn nhermau tri chymeriad yn dod ynghyd am sgwrs - y meddwl, y corff a’r byd.
‘Solvitur ambulando’, meddai Awstin Sant - ‘Datrysir y peth drwy gerdded’. Boed i’n cerdded ninnau dros gyfnod y Grawys eleni fod yn gymorth ac yn gyfrwng i ddod â meddwl, corff, byd ac enaid ynghyd.
TEITHIAU UNIGOL:
Nasareth i Fethlehem. 65 milltir dros 40 diwrnod. 1.6 milltir/4000 o gamau'r dydd.
Via Dolorosa. 88 milltir dros 40 diwrnod. 2.2 milltir bob dydd/5500 o gamau’r dydd.
Jerwsalem i Damascus. 150 milltir dros 40 diwrnod. 3.75 milltir/7500 o gamau’r dydd.
Damascus i Cesarea. 200 milltir dros 40 diwrnod. 5 milltir/5000 o gamau’r dydd.
TEITHIAU MWY YMESTYNNOL:
Damascus i Cesarea. 200 milltir dros 40 diwrnod. 5 milltir/5000 o gamau’r dydd.
Exodus. 375 milltir dros 40 diwrnod. 9.4 milltir/18,750 o gamau’r dydd.
Tarsus i Jerwsalem. 390 milltir dros 40 diwrnod. 9.75 milltir/19,500 o gamau’r dydd.
TEITHIAU GRŴP:
Taith Abraham: 900 milltir. 22.5 milltir fel grŵp bob dydd.
Taith Genhadol Gyntaf Paul: 1300 milltir. 32.5 milltir fel grŵp bob dydd.