Ai fi yw ceidwad fy mrawd? (Genesis 4:9)
Wrth drafod yr adnod: Dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni (Genesis 1:3) gofynnodd hen athro Ysgol Sul i’w ddosbarth, sut y gellid gwybod i sicrwydd bod y nos wedi darfod a’r dydd wedi dechrau? "Efallai", meddai un aelod o’r dosbarth, "bod y nos wedi darfod a’r dydd wedi dechrau pan i chi’n gwybod, o weld anifail yn y pellter, mae dafad ydyw, ac nid ci?" "Na", atebodd yr athro. Cynigodd un arall, "Pan i chi’n gallu gweld coeden yn y pellter, a gwybod mai coeden afalau yw hi nid coeden gellyg." "Na", atebodd yr athro eto. "Wel", meddai un arall o’r disgyblion wedi syrffedu, "pryd felly?" "Pan i chi’n gallu edrych i wyneb person, a gweld mae eich brawd neu chwaer ydyw. Oherwydd os na allwch weld hynny, mae’n nos arnom."
Ehanga ‘mryd a gwared fi
rhag culni o bob rhyw,
rho imi weld pob mab i ti
yn frawd i mi, O Dduw Amen
(E.A.Dingley, 1860-1948; cyf. Nantlais, 1874-1959 CFf.:805)
(OLlE)