Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd Owain yn dechrau ar gyfres o bregethau: Awn i Fethlem, bawb dan ganu. Echel y bregeth gyntaf hon fydd Luc 2:15 a’r tri pheth i gofio bore Sul fydd: Atyniad Baban; Anturiaeth Bachgen ac Awdurdod Brenin.
Bydd ein cyfnod o weddi a gweddïo yn troi ar echel y Colect am y Sul cyntaf hwn yn Adfent:
Hollalluog Dduw, dyro inni ras i ymwrthod â gweithredoedd y tywyllwch, ac i wisgo arfau’r goleuni yn y bywyd hwn yr ymwelodd dy Fab Iesu Grist a ni ynddo mewn gostyngeiddrwydd mawr; fel y bo inni'r dydd diwethaf, pan ddaw drachefn yn ei fawredd gogoneddus i farnu’r byw a’r meirw, gyfodi i’r bywyd anfarwol, trwyddo ef sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
Liw nos (18:00) yn yr Oedfa Hwyrol. Coedwig ein perthynas â Duw fydd testun homili Owain Llyr. Plethiad o adnodau fydd ein darlleniad: Jeremeia 17:5-8 a Salm 1. Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Boed bendith.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.
Bydd naws yr Adfent ar #BoreolWeddi @MinnyStreet a bydd Coeden Jesse yn tyfu a datblygu bob dydd ar y wefan hon. Ymunwch â ni. Boed bendith yn wir.
Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa Hwyrol.
PIMS nos Lun (3/12; 19:00-20:30 yn y Festri): Ych! Parti Nadolig!
Bydd ein Hymddiriedolwyr yn cwrdd nos Lun. Boed bendith Duw ar eu gwaith.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (5/12): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (7/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.