Daw’r syniad o goeden Jesse o’r tair adnod ar ddechrau Eseia 11: O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, a bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a wel y barna, ond nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna, ond fe farna’r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu’n uniawn i rai anghenus y ddaear.
Fesul gam, trwy’r Adfent eleni darperir, gyda myfyrdod syml beunyddiol, bortread o berson neu ddigwyddiad allweddol yn stori ein ffydd.
Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, "Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i’n gwaredu; dyma’r, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth." (Eseia 25:9)
Fe drig y blaidd gyda’r oen, fe orwedd y llewpard gyda’r myn; daw’r llo a’r llew ynghyd, a phlentyn bychan yn eu harwain. (Eseia 11:6b)
O! tyrd, Flaguryn Jesse, nawr
a dryllia allu’r gelyn mawr;
rho fuddugoliaeth drwy dy wedd
ar uffern ddofn ac ofn y bedd:
O! cân, O! cân: Emanŵel
ddaw atat ti, O Isräel.
Emyn Lladin o’r 18fed Ganrif. cyf. J. D. Vernon Lewis (1879-1970) 432.CFf
Saif ein gobaith yn yr Iesu,
Brenin nef, goleuni’r byd;
Ei ddoethineb a’i ddaioni
A ffrwythlona’n gwaith i gyd;
Llawenhawn, drwyddo cawn
Holl adnoddau Duw yn llawn.
J. D. Vernon Lewis; 324.CFf