Dros y Sul, (10:30 a 18:00) ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Andrew Lenny (Aberystwyth). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Cynhelir Ysgol Sul. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Nos Lun (26/11; 19:30): ‘Cywyddaid’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at gyfle i ymdawelu ac ymlonyddu.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (Nos Fawrth 27/11; 19:30 yn y Festri): "Atgofion" yng nghwmni Gwenda Morgan.
Nos Fercher (28/11; 19:00-21:00): Taith Adnoddau Nadolig dan nawdd Cyhoeddiadau’r Gair - cyfle i weld a phrynu adnoddau Nadolig (gan gynnwys cardiau) ynghyd â gwerslyfrau’r Ysgol Sul a llyfrau defosiynol newydd.