Heddiw ar Ddydd Gŵyl Mair o Fagdala y mae’n briodol i ni feddwl munud am y wraig ryfeddol hon. Gwell glynu wrth y ffeithiau Ysgrythurol na phwyso gormod ar y traddodiadau sydd, o’i chwmpas yn troi a throelli. Er enghraifft, nid oes sail ddigonol i’r dybiaeth mai hi oedd y bechadures yn nhŷ Simon y Phariseaid (y stori rymus a gofnodir yn Luc 7), na chwaith i’r traddodiad iddi unwaith fod yn ferch ifanc nwydwyllt!
Beth bynnag am ei gorffennol nid oes amau iddi fynd drwy ryw gyfnewidiad ysgubol. Ffordd yr Efengylau o ddweud hynny yw i’r Arglwydd Iesu fwrw allan saith o gythreuliaid ohoni. Gallai’r rheini olygu unrhyw gymysgedd o anhwylderau corfforol a meddyliol, ac o dan law’r Meddyg Mawr fe aeth Mair yn greadigaeth newydd.
Ni allai hithau ddiolch digon iddo, ac ni fu disgybl ffyddlonach i Iesu ar hyd ei weinidogaeth. ‘Roedd hi ymhlith yr olaf wrth y groes, ac yn o’r cyntaf wrth y bedd gwag ar fore’r trydydd dydd. Iddi hi yr ymddangosodd y Crist Atgyfodedig gyntaf, a gwefreiddiol yw’r hanes yn y darlleniad amdano ef yn ei chyfarch wrth ei henw Mair yn yr ardd. Ni allai neb arall ynganu ‘Mair’ yn union fel Iesu!
Ymdawelwch am ychydig a darllen yr hanes - Ioan 20:1-18 -; ystyriwch yn fyfyrgar fel na all neb arall ynganu ein henw ninnau yn union fel Iesu.
Arglwydd Dduw, am bob peth a wnaeth dy gariad arnaf ac ynof diolchaf yn ostyngedig; a’m dyhead yw am gael treulio ‘mywyd er dy glod. Amen.
(OLlE)