Mae Gogledd Korea yn aelod o glwb rhyngwladol dethol iawn: y Clwb Niwclear. Oni bai am fygythiad tawel cyson aelodau eraill o’r clwb hwnnw, Tsiena a’r Unol Daleithiau yn arbennig, buasai Kim Jong-un - teyrn Gogledd Korea - wedi ildio i’r demtasiwn o daflu un o’i fomiau newydd dros y ffin i ladd miloedd ar filoedd o bobl Dde Korea.
Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid cadw arfau niwclear y Deyrnas Unedig gyda mwyafrif o 355 o blaid. Onid da hyn?
Ar ddechrau ei arlywyddiaeth soniodd Barack Obama am the Zero Option, sef pawb yn ddiwahân yn diarfogi, yn raddol. ‘Roedd yn rhaid i Ogledd Korea a’i tebyg wneud hynny cyn neb arall. Beth allai fod yn well, na byd heb arfau niwclear? Ond ...
Wrth benderfynu a ddylid casglu arfau niwclear ai peidio onid prif gonsyrn cenedl neu gyfundrefn wleidyddol yw faint o’r cymdogion sydd ag arfau tebyg? Mae'r Clwb Niwclear yn bodoli, a chan bod y Clwb Niwclear yn bodoli a rhai aelodau ohoni'n gryfach na’r gweddill, pa werth gwleidyddol ac economaidd sydd i genedl arall ymuno â’r Clwb? Bydd gan rywrai eraill bob amser gwell arfau, a mwy ohonynt. Ond, pe bai holl aelodau’r Clwb Niwclear yn dechrau diarfogi, oni fuasai hynny’n annog gwledydd a chyfundrefnau eraill i ddechrau pentyrru arafu iddynt hwy eu hunain?
Dwi ddim am gadw Trident, ond mae gen i ofid am fod hebddo. Buasai'n braf meddwl, pe bai'r Deyrnas Unedig, er enghraifft, yn gosod ei harfau niwclear o’r neilltu, y buasai Gogledd Korea, er enghraifft yn gwneud yr un modd. Efallai buasai hynny'n digwydd ... efallai. Wrth weld aelodau’r Clwb Niwclear, un ac oll, yn gosod eu harfau erchyll o’r neilltu, onid dyna'r amser a chyfle delfrydol i Kim Jong-un hel arfau niwclear?
Credir mai aelodau’r Clwb Niwclear sydd yn plismona pawb arall yn y byd - mae ganddynt fwy a gwell arfau na allai’r darpar aelodau obeithio amdanynt, a fwy o arfau na sydd gan yr aelodau newydd. Os dderbyn y ddadl honno, da o beth yw canlyniad y bleidlais nos Lun.
Ond ...
Efallai nad 'nhw' yw'r drafferth go iawn. Er mor real y gofid am Ogledd Korea, Kim Jong-un, Rwsia, Vladimir Vladimirovich Putin, a'r mudiadau terfysgol rheini sydd ar ei deng ewin yn ceisio cael gafael ar arf niwclear, credaf mai gwraidd y drafferth yw ansicrwydd y Deyrnas Unedig. Os oes gennym arfau niwclear cawn berthyn i glwb o genhedloedd cryf a chyfoethog tebyg. Cawn blismona cenhedloedd eraill, ac ar adegau ei bygwth. Perthynwn i glwb dethol o genhedloedd sydd yn cael eu parchu’n fawr. Mae'r penderfyniad nos Lun yn golygu ein bod yn cael parhau i fod yn aelod o'r Clwb Niwclear tan y 2060au.
Mae system Trident yn sicrhau i'r Deyrnas Unedig parch, safle a grym ymhlith y cenhedloedd. Os mai dyna’r gwir reswm dros adnewyddu Trident, yr hyn a wnaed oedd dangos i Kim Jon-un a'i debyg maen nhw sydd yn iawn: yr unig ffordd i fod yn genedl 'go iawn' - cenedl a berchir gan genhedloedd eraill - yw sicrhau cyflenwad da o arfau niwclear.
Daeth amser i aelodau’r Clwb Niwclear ddarganfod gwell ac amgenach sylfaen i barch a hunan-barch cenedlaethol. Dyna pam, er bod gen i ofid am fod hebddo, y bu'r penderfyniad nos Lun i adnewyddu Trident yn gymaint o siom.
(OLlE)