Da a buddiol ‘Genesaret’ heddiw.
Ai dyma’r olaf tybed?
A fydd cyfle ym mis Medi i gwrdd eto, wrth ymyl llyn llonydd Parc y Rhath am sgwrs a thrafodaeth werthfawr a da?
‘Roedd y 10 (gwiw gennym gael cwmni dau ymwelydd i’n plith heddiw) a ddaeth ynghyd yn falch o glywed bod y Gweinidog am barhau gyda’r cyfarfodydd hyn. Yn wir, ei fwriad heddiw oedd bwrw golwg yn ôl ar y cyfarfodydd, i weld sut ellid datblygu’r gyfres i'r dyfodol.
Cafwyd trafodaeth dda - trodd yr awr yn awr a hanner! Pendraw’r cyfan oedd penderfynu ar ddilyn trywydd pendant i gyfeirio’r drafodaeth, gan sicrhau’r hyblygrwydd angenrheidiol i beidio rhigoli’r drafodaeth honno. Clamp o gamp! Ond, awgrymwyd a chytunwyd ar syniad - daw manylion pellach maes o law.
Diolch i Terra Nova am y croeso cynnes arferol.