Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn iawn eu cyfieithu i iaith arall. Ymdrin ag ambell un o’r geiriau rheini mae’r gyfres hon o fyfyrdodau. Daw testun ein sylw heddiw o’r Eidaleg: Culaccino. Golyga’n fras y marc a adewir ar fwrdd gan wydriad o ddiod oer.
Un o hanfodion ein ffydd yw cydnabod mawredd Duw:
Mwy wyt na holl ddychymyg dyn
‘Wŷr neb dy faint ond ti dy hun:
Rhown, bechaduriaid, iti glod
Am mai tydi yw gwraidd ein bod.
(Gwilym R. Jones, 1903-93)
Onid allwn ddisgwyl pethau mawr gan Dduw mawr? Siŵr ddigon y gellid disgwyl pethau mawr gan Dduw. Mae'r gallu ganddo i gyflawni rhyfeddodau. Ystyriwch eiriau'r angel i Mair: … ni bydd dim yn amhosibl gyda Duw (Luc 1:37 BCN). Mae'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni … (Effesiaid 3:20 BCN).
Wrth gwrs, gallasai’r Duw mawr hwn gyflawni pethau mawr, hynod fawr. Hyn, mae’n siŵr, sydd yn esbonio’r dyhead cyson a llafar am ddiwygiad - cynnwrf sylweddol y cynyrfiadau mawr crefyddol.
Disgyn, Iôr, a rhwyga’r nefoedd,
tywallt Ysbryd gras i lawr;
disgyn fel y toddo’r bryniau,
diosg fraich dy allu mawr;
Rhwyga’r llenni, ymddisgleiria
Ar dy drugareddfa lân;
Rho dy lais a’th wenau tirion,
Achub bentewynion tân.
(William Griffiths, 1801-81)
Naturiol (a chyfoes) yw’r dyhead a fynegir gan William Griffiths: cael gweld Duw yn troi byrddau a gwasgar cadeiriau ein crefydda. Gallasai Duw wneud hynny, ac ar dro y mae wedi gwneud peth felly, ond buddiol hefyd yw cofio ei addewid fawr i Hosea a'i bobl: Byddaf fel gwlith i Israel (Hosea 14:5 BCN). Mae Duw hefyd yn medru - ac yn dewis - gweithio'n dawel. Rhaid iddi fod yn dawel cyn y daw’r gwlith. Mae lle i fellt a tharanau - cliriant yr awyr; ond anodd buasai gorfod byw ynghanol mellt a tharanau bob dydd, trwy’r dydd. Onid yn araf a sicr y mae Duw yn cyflawni ei fwriad? Mae perygl, o ddyheu am bethau mawr - Duw yn troi’r byrddau a gwasgar cadeiriau - y byddwn yn colli’r Culaccino. Marc ei gwmni ar fwrdd ein byw: cylch crwn ei fendith ar ein hymdrechion i fyw a rhannu’r ffydd. Er mor fuddiol y cynyrfiadau mawr achlysurol; bendithion cyffredin y beunydd beunos yw pennaf gymwynas Duw. Hanfod ein gweinidogaeth yw chwilio ac amlygu Culaccino'r Duw sydd gyda ni bob amser, ac sydd o hyd ar waith - yn dawel ddygn - ynom a throsom.
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)