F’anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybu
i feirch cerbydau Pharo.
Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi,
a’th wddf gan emau.
(Caniad Solomon 1:9,10 BCN)
‘Roedd cymharu merch â march yn ddigon derbyniol yng nghyfnod y Caniad! Â’r mab i eithafiaeth wrth gymharu ei gariad â meirch cerbydau Pharo, ond er tegwch iddo, nid oes cymedroldeb mewn cariad.
Ym mhob cyfeiriad ond un at y march yn yr Hen Destament cysylltir ef ag arferion a rhwysg milwrol. Ceir yr eithriad yn Llyfr Esther (8:10). Gan fod y march yn symbol o rym, gwaharddai’r Gyfraith i Israel gadw meirch rhag iddi ymddiried ynddynt ac anghofio’i Duw. Nid yw’r brenin i amlhau meirch iddo’i hun, nac i yrru ei bobl yn ôl i’r Aifft er mwyn hynny, gan fod yr ARGLWYDD wedi eich gwahardd rhag dychwelyd ar hyd y ffordd honno (Deuteronomium 17:16 BCN).
Bu pobl Dduw yn gyson anffyddlon i’r ddelfryd, ac yn y rhyfeloedd â Syria ac Asyria, cyrchid meirch a cherbydau rhyfel o’r Aifft. Bu Eseia ac Eseciel yn rhybuddio’r bobl rhag eu harfer: Gwae’r rhai sy’n mynd i lawr i’r Aifft am gymorth, ac yn ymddiried mewn meirch, a’u hyder mewn rhifedi cerbydau a chryfder gwŷr meirch, ond sydd heb edrych at Sanct Israel, na cheisio’r ARGLWYDD (Eseia 31:1 BCN) … gwrthryfelodd y brenin yn ei erbyn trwy anfon negeswyr i’r Aifft i geisio meirch a byddin fawr (Eseciel 17:15 BCN). Am yr un rheswm, disgrifir Crist, er ei fod yn frenin, yn marchogaeth nid ar farch, ond ar asyn.
Benthycwn brofiad y Salmydd yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Canwch i’r ARGLWYDD mewn diolch …
Nid yw’n ymhyfrydu yn nerth march …
… pleser yr ARGLWYDD yw’r rhai sy’n ei ofni,
y rhai sy’n gobeithio yn ei gariad.
(Salm 147: 7a;10,11 BCN)
(OLlE)