'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
It wonderfully concentrates the mind. Mynnodd Samuel Johnson (1709-84) mai dyma ganlyniad gorfod wynebu’n sydyn ar eich diwedd. Gellid awgrymu fod rhywbeth tebyg yn digwydd pan sylweddolwn fod angen cofio a dathlu digwyddiad allweddol bwysig - it wonderfully concentrates the mind.
Cyn pen fawr o dro, daw Hydref 31, 2017. Y diwrnod hwnnw fydd echel llond blwyddyn o gofio: cofio pumcanmlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd; Martin Luther a’i 95 Pwnc yn erbyn Maddeuebau. Mae sefydliadau ac eglwysi ledled byd eisoes yn prysur drefnu a chynllunio, yn pwyllgora a isbwyllgoreiddio i sicrhau dathlu dilys o’r pen-blwydd sylweddol hwn.
Sut dylid dathlu-gofio’r anferthedd hwn? Mae’r Diwygiad Protestannaidd megis hwch mewn siop. Amhosibl gwadu'r newid mawr a ddaeth o’i herwydd, ond bu difrod; do, bu difrod mawr. Mae’r newid a’r llanast, y fendith a’r felltith yn anwahanadwy. Er mwyn cyfiawnhau’r fath osodiad, buddiol yw cofio fel y canmolir a melltithir Protestaniaeth am greu ohono: y genedl-wladwriaeth fodern; rhyddfrydiaeth, cyfalafiaeth, rhyfeloedd crefyddol, goddefgarwch, democratiaeth, unigolyddiaeth, goddrychiaeth, lluosedd, rhyddid cydwybod, gwyddoniaeth fodern, seciwlariaeth a thrwch a phentwr o bethau bach a mawr, da a drwg eraill. Mae hanes modern y Gorllewin yng nglŵm wrth y flwyddyn 1517. Mae 2017 yn prysur agosáu; sut dylid cofio'r pumcanmlwyddiant hwn?
Mae arnom ddyletswydd i gofio. Rhaid cofio; ac fe all y cofio hwnnw fod yn gyfle i ystyried nid yn gymaint o ble y daethom, ond lle’r ydym. Mae cofio’n hawdd. Gall dathlu-gofio pumcanmlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd fod yn ddim byd amgenach na chyfle i ochrgamu ein cyflwr cyfredol. Un peth yw cydnabod fod rhywbeth mawr wedi digwydd yn 1517; peth cwbl arall yw defnyddio’r pen-blwydd hwn fel cyfle i fantoli ac asesu: dathlu dylanwad llesol y da a chydnabod effaith niweidiol y drwg. Arwydd o onestrwydd ac aeddfedrwydd - ar un modd o anonestrwydd ac anaeddfedrwydd - fydd ein parodrwydd i ddathlu ac edifarhau, heb ganiatáu i’r naill beth gael y gorau ar y llall.
Felly, awgrymaf mai llesol i Brotestaniaid a Chatholigion buasai cydnabod yr elyniaeth a’r ysbryd dialgar a fu’n llywio a lliwio diwinyddiaeth cyffesiadol yn y cyfnod wedi’r diwygiad. Dathlu-gofio llesol buasai dechrau - yn y tyrrau ifori diwinyddol ac ar lawr gwlad ymhlith cynulleidfaoedd ac eglwysi - datblethu’r elyniaeth a’r amheuaeth o’r ddiwinyddiaeth a’r genhadaeth. O fynd i’r afael â hyn o dasg yn 2017, efallai y gwelir gwell graen ar ein crefydda, a gwell siâp ar ein Koinônia yn 2117. Nid oes ynghudd yma unrhyw awgrym o ganolbwyntio dim ond ar yr hyn sydd gennym yn gyffredin, gan anwybyddu’n llwyr yr hyn nad ydym, gan na allwn fyth, gytuno yn eu cylch. Te a bisgedi o eciwmeniaeth yw hynny - digon dymunol, ond ofer. Mae 2017 yn gyfle heb ei debyg i ddechrau rhyddhau ein crefydda o’r angen am elyn. Buddiol yw anghytuno. Angheuol yw pardduo eraill, gan nad ydynt yn credu fel ninnau. Yn 2017, buasai dechrau cynnal trafodaethau lleol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol i bontio’r gagendorau a saif rhyngom yn ddathliad teilwng o 1517.
Buddiol hefyd buasai amlygu dylanwad gwleidyddiaeth a phrif gymeriadau’r Diwygiad Protestannaidd ar hyn oll a ddaeth i fod o’i herwydd. Derbynnir yn gyffredinol mae gwahaniaethau diwinyddol bu’n gyfrifol am y Diwygiad Protestannaidd. Dylid nodi fod dylanwadau eraill hefyd ar waith; dylanwadau gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd, heb anghofio anian arweinwyr unigol a’r tensiynau a fu rhyngddynt. Pam, a sut y bu i’r un diwygiwr hwn, Martin Luther fod yn gatalydd i’r fath newid ysgubol? I ba raddau y bu gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol, arafwch ceidwadol cynhenid y sefydliad crefyddol yn atal cymod, pan oedd cymodi’n parhau’n bosibilrwydd? Gellid, trwy sicrhau, darparu a rhannu gwell deall o gyd-destun hanesyddol, gwleidyddol a diwylliannol 1517, agor cil y drws yn 2017, i drafodaeth na fu ei debyg erioed o’r blaen.
Yn olaf, Luther ei hun. Er mor amlwg allweddol yw cofio amdano, rhaid hefyd clywed lleisiau eraill o’r 16 Ganrif. Nid Luther mor Diwygiad Protestannaidd. Boed iddo sylw, a gwrandawiad ar sail ei barodrwydd i wthio a thynnu’r eglwys i gyfeiriad newid cwbl anhepgor; ond y dasg ddiwinyddol a bugeiliol yn 2017 yw nid amlygu Luther, ond amlygu'r Hwn a amlygwyd gan Luther: Crist. Yn 2017 mae angen Diwygiad ar yr eglwys. Nid ein heiddo ‘ni’ mo Luther a’i barodrwydd i herio a sefyll, ond eiddo pob lliw a llun o Gristion sydd am fod y newid sydd angen ar Gristnogaeth 2017. Onid y ffordd orau posib i ddathlu-gofio 1517 buasai rhannu afradlon o Grist ymhlith y bobl sydd yn dyheu amdano?
Wrth fynd i’r afael â gwahaniaethau hanesyddol gydag ysbryd o onestrwydd ac edifeirwch, gall y pumcanmlwyddiant hwn fod yn gyfrwng to wonderfully concentrates the mind nid yn unig ar rannu a rhaniadau’r gorffennol, ond - yn bwysicach - ar y dyfodol ai bosibiliadau di-ben-draw.
(OLlE)