Bore Sul am 10:30, Oedfa Foreol. Arweinir y defosiwn gan Leisa; pawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - â’i adnod (Thema adnodau’r oedolion: Diolch). Yn yr Oedfa, ac ymlaen i’r Ysgol Sul bydd y plantos, plant a phobl ifanc yn derbyn a pharatoi ‘Pecyn Cymorth Llawenydd’. Bydd cyfle i’r plant gyflwyno eu nwyddau Diolchgarwch i Fanc Bwyd Caerdydd. Gwneir casgliad tuag at apêl Cymorth Cristnogol - Haiti.
Testun homili’r Gweinidog yw Actau 27-28: Storm a llongddrylliad - Paul yn derbyn cymorth gan garedigion annisgwyl. Llaw galed yn estyn cymwynas i ddechrau (Actau 27:3). Nesaf Meddwl tywyll yn estyn croeso (Actau 28:2 WM), ac yn olaf: Calon afiach yn talu gwrogaeth (Actau 28:10).
Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) testun sylw ein Gweinidog fydd emyn David Charles (1762-1834; Caneuon Ffydd: 356)
O na chawn i olwg hyfryd
ar ei wedd, Dywysog bywyd;
tegwch byd, a’i holl bleserau,
yn ei ŵydd a lwyr ddiflannai.
Melys odiaeth yw ei heddwch,
anghymharol ei brydferthwch;
ynddo’n rhyfedd cyd-lewyrcha
dwyfol fawredd a mwyneidd-dra.
Uchelderau mawr ei Dduwdod
a dyfnderoedd ei ufudd-dod
sy’n creu synnu fyth ar synnu
yn nhrigolion gwlad goleuni.
Nos Lun (17/10; 19:00): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun y ‘Genesis’ hwn yw Ioan 10:14: Myfi yw y bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid.
Cafwyd cyfarfod agoriadol hwyliog dros ben o’r Gymdeithas gyda Delwyn Siôn. Os nad ydych eto wedi ymweld â’r Gymdeithas, cofiwch fod croeso i chi a byddwch yn siriolach wedi bod yno. 18/10; 19:30 yn y Festri) fydd noson yng nghwmni Rhodri Llywelyn a Hywel Gwynfryn: ‘Tipyn o Gamp’.
Babimini bore Gwener (21/10; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.
‘Solvitur ambulando’, meddai Awstin Sant (c.354-430): ‘Datrysir y peth drwy gerdded’. Un o fendithion pennaf bywyd yw cerdded, ychwanegir bendith at fendith wrth gerdded mewn cwmni. Cofiwch felly, bore Sadwrn (22/10; 10:30) Taith Gerdded Llyn y Rath.