SALM

Salm 107

Salm o adnewyddiad, llawn gobaith yw Salm 107. Clywsom sôn ddigon am ffyddlondeb Duw, ond mae’r Salm arbennig hon yn gofnod o ffyddlondeb Duw ar waith. Yr wythnos hon byddwn yn ystyried ffyddlondeb yr ARGLWYDD (Salm 107:43b BCN)

Mae’r tair adnod gyntaf yn rhagymadrodd i weddill y Salm, yn cyflwyno’r thema: Y mae’r ARGLWYDD yn dda, a’i ffyddlondeb dros byth. Yna, cawn gyfarfod a phedwar gwahanol fath o bobl a brofodd cysur a chymorth i fyw yr ARGLWYDD Dduw. Yn adnodau 33 i 42 mae’r Salmydd yn sôn yn fwy cyffredinol am y ffordd mae Duw yn gweithio yn y byd, cyn gorffen gyda’r anogaeth bendant: Pwy bynnag sydd ddoeth, rhoed sylw i’r pethau hyn; bydded iddynt ystyried ffyddlondeb yr ARGLWYDD.

Y math cyntaf o bobl sydd yn profi ffyddlondeb Duw ar waith yw’r rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch (107:4-9) Pobl ydynt sydd yn chwilio am noddfa, yn dyheu am ddiogelwch; rhywbeth y gydio ynddo, i ymddiried ynddo, i gredu ynddo … a gwaredodd (Duw) hwy o’u hadfyd (107:6b).

Yr ail, gan ddechrau yn adnod 10, mae’r rhai oedd yn eistedd mewn tywyllwch dudew. Pobl yw'r rhain sydd wedi ymwrthod â Duw, ond mae Duw, er waethaf hynny yn eu gwaredu hwythau hefyd.

Ymlaen at yr ynfyd; oherwydd eu ffyrdd pechadurus (107:17) Er iddynt ddod yn agos ar farw (107:18), mae Duw yn eu gwaredu.

Mae adnodau 23 i 32 yn sôn am bobl ar y môr, ac yng nghanol ei gorchwylion, gwelsant ryfeddodau Duw. Yng nghanol y storm, gwaeddasant fel y gweddill i gyd ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, ac fel y gweddill i gyd, gwaredodd (Duw) hwy o’i hadfyd.

Pobl yn chwilio am gysur a diogelwch cartref. Pobl yn ar goll yn y tywyllwch; pobl yn gaeth i’w pechod. Pobl wedi eu dal mewn storm annisgwyl. Yn y Salm, mae’r holl bobl hyn yn ymateb i’w sefyllfaoedd yn yr un modd … gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder (107:6;13;19;28). Mae’r bobl sydd mewn cyfyngder yn galw allan i’r unig un a all eu hachub: Duw da a ffyddlon.

 Na ad i ni, Arglwydd, geisio unrhyw ddihangfa ond y ddihangfa sydd ynot ti. Amen.