Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Sbaeneg: Duende. Yn fras, duende yw gallu ambell ddarn o gelfydd i godi’r galon a chyffroi’r enaid.
Cyson bu’r sôn am y dirwasgiad; mae ei effaith yn amlwg ddigon. Mae sawl sefydliad, cymuned ac aelwyd yn plygu dan ei bwysau.
Yng ngafael dirwasgiad, y demtasiwn barod yw ysgubo ymaith bopeth sy’n dda i ddim, a hynny’n naturiol ddigon; ond naturiol ddigon ai pheidio, gan y pethau sy’n dda i ddim mai cyfrinach goroesi’r dirwasgiad, a hynny’n union oherwydd mae da i ddim ydynt!
Adroddai William Temple stori am dad yn anfon ei blentyn i’r ysgol gyda nodyn ar ddarn o bapur "Dear Sir, don’t teach my boy poitry, he’s going to be a groser". ‘Roedd poitry yn dda i ddim, yn yr un ffordd mae’r cain, a’r prydferth yn dda i ddim! ‘Roedd poitry yn dda i ddim yn yr un ffordd mae ffydd, gobaith a chariad - bob un - yn dda i ddim!
Heb os, mae poitry, celfyddyd a cherddoriaeth; mae ffydd, gobaith a chariad yn dda i ddim mewn dirwasgiad, a dyna’n union pam mae’r union bethau hyn sydd angen arnom i ymdopi â’r dirwasgiad, ac i ymateb iddo fel unigolion, ac fel cymdeithas. Y pethau sy’n dda i ddim fydd yn cynnal a chadw ein hymdrechion i gynnal a chadw ein gilydd.
Tra yng ngafael ei ddirwasgiad ef ei hun, mynnai Iesu: Nid ar fara yn unig y bydd dyn fyw ... (Mathew 4:4). O dan bwysau ein dirwasgiad ninnau, y demtasiwn yw ymwrthod â phopeth nad sy’n fara, ac yn union oherwydd bod y demtasiwn honno mor gwbl naturiol a dealladwy, rhaid i unigolyn a chymdeithas edrych ar hawddgarwch ac i ymofyn yn ei deml (Salm 27:4)! Rhaid wrth fara a poitry beunyddiol.
Mae pobl lliw a llun o brydferthwch yn dda i ddim. Mae poitry ffydd, gobaith a chariad yn dda i ddim, ond gan y pethau sy’n dda i ddim mae cyfrinach popeth gwerthfawr: duende.
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)