Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedigion Jeff Williams (10:30) a Lona Roberts (18:00). Gwyddom y cawn ganddynt bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Cynhelir yr Ysgol Sul. Elen fydd yn arwain defosiwn yr ifanc.
Pnawn Sul (15:00-16:00) Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg. Cyflwyniad i gynllun Y FFORDD gan y Parchedig Robin Wyn Samuel (yng nghapel Bethlehem, Gwaelod y Garth). Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth y Cyfundeb.
PIMS nos Lun (23/1; 19:00-20:30): Noson o Ddringo yng Nghanolfan Ddringo ‘Boulders’; St. Catherine’s Park, Pengam Road.
Bethania nos Fawrth (24/1; 19:30-21:00). Diolch i Dianne am ein croesawu. Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu, deuddyn a fentrodd eu heinioes i arbed fy mywyd i. Nid myfi yn unig sydd yn diolch iddynt, ond holl eglwysi’r Cenhedloedd (Rhufeiniaid 16:3,4 BCN).
Bore Gwener (27/1; 11:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Rowan Williams: Choose Life (Bloomsbury, 2013). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Stopping and Seeing (t.99-107).