O RAN Y GWELWN ...

WWUC2017 #3

Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw’r gobaith sy’n ymhlyg yn eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb (Effesiaid 4:4-6 BCN).

Nodwedd o ddull meddwl Hebrëwr oedd ei duedd i feddwl am y lliaws yn nhermau’r un. Cynrychiolwyd y teulu cyfan gan y pen teulu a chenedl gyfan gan frenin. Credaf fod Paul wedi etifeddu'r dull hwn o feddwl, a hynny yn ei alluogi i feddwl am yr un yn llawer ac am y llawer yn un. Priodol iddo felly oedd meddwl am holl bobl Crist fel un corff.

Ond er y pwyslais ar undod, oddi mewn iddo geir amrywiaeth. Ceir rhai yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon. Disgwylir i bob rhan o’r corff wneud ei ran er lles y corff cyfan. Mae sylweddoli ein bod yn un yng Nghrist yn alwad i garu ein gilydd a chyd-weithio ym mhob modd y medrwn ni, ond nid yw’n alwad am unffurfiaeth allanol am wn i. Dylid cydnabod nad yw’r mynegiant delfrydol o’r ffydd fel Cristnogion yn bod nac wedi bod erioed ac nad yw’r holl wirionedd yn eiddo i’r un traddodiad neu argyhoeddiad. Mae’r amrywiol argyhoeddiadau a thraddodiadau yn fynegiant o’r cyfoeth sydd yng Nghrist a goludoedd Cristnogaeth. Ni welsom eto beth yw’r cyfan o Gristnogaeth gan mai o ran y gwelwn. Mae hyn yn alwad i’r traddodiadau ac argyhoeddiadau gwahanol gydnabod gweinidogaeth ei gilydd - os Crist yw'r pen - a chydnabod hefyd fel y rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist, i bob aelod o’r corff.

Dyro i ni fentro mwy yn dy enw di, O! Dduw. Amen.