CREDAF ... YN YR EGLWYS LÂN? CATHOLIG?

WWUC2017 #2

Ond y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw’r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni (2 Corinthiaid 4:7).

Yn destun sylw heddiw dyma gymal o Gredo’r Apostolion:

Credaf ... yn yr Eglwys lân ... gatholig.

Glân? Yr Eglwys Gristnogol yn lân? Yn lân ei chenhadaeth a gwasanaeth? Yn lân mewn myfyrdod a gair a gwaith? Sgersli bilîf! Felly pwy yw’r Eglwys lân?

Rhaid cofio fod y gair ‘glân’ yn gwlwm o ystyron - ‘pur’, ‘sanctaidd’, ‘ar wahân’. Cymdeithas ‘ar wahân’ yw’r Eglwys lân, wedi ei gwahanu oddi wrth bob peth arall. Duw yng Nghrist sydd yn ei galw hi o’r neilltu. Ef sydd yn ei gwneud hi yn gymdeithas ar wahân. Ond, nid gwaith yr Eglwys yw cadw ar wahân i’r byd a sefyll draw oddi wrth bopeth ‘bydol’. Gwaith yr Eglwys yw byw, gweithio a thystiolaethu yn y byd. Duw yw’r un a rydd arwahanrwydd iddi. Ni all yr eglwys ymsancteiddio. Duw sy’n ei chysegru, ei sancteiddio a’i chadw’n lân.

... yn yr Eglwys lân gatholig.

Y mae’r Eglwys lân gatholig yn gymdeithas gyffredinol, heb ffiniau, ac yn fyd-eang. Gall pawb fod yn aelod o’r Eglwys lân gatholig os yw’n arddel enw Iesu yn Arglwydd. Y mae ffiniau rhesymol a naturiol mewn llawer rhan o fywyd. Er enghraifft, ni allaf fi fod yn aelod o’ch teulu chi, nac efallai, yn un o gylch eich cyfeillion. Ond nid oes ffiniau na dosbarthiadau y tu fewn i’r Eglwys lân gatholig ychwaith; y mae gan bawb o’i haelodau gyfraniad cyfartal i’w bywyd hi. Gan fod ynddi wahanol ddoniau y mae ganddynt wahanol gyfraniadau. Yn yr Eglwys lân gatholig y mae pawb yn ‘weinidog’, gan fod pawb yn gweini ar bawb. Cymdeithas i wasanaethu pawb yw’r Eglwys lân gatholig. Gwasanaetha bawb o’i haelodau, nid plesio carfan ohonynt yn unig. Gwasanaetha hefyd bawb drwy’r byd yn enw ei Harglwydd.

O! Dduw, diolchwn fod dy Eglwys di yn lletach na’r ffiniau i gyd, ffiniau’r canrifoedd a’r oesoedd; ffiniau ardaloedd a thraddodiadau; ffiniau argyhoeddiadau, rhagfarnau a mympwyon gwahanol. Dysg i ni, ynddi, a throsti i feddwl a byw yn lân a chatholig. Amen.