'Gwirfoddoli' oedd pwnc y siaradwraig wadd, Mrs Margaret Jones o Bort Talbot. Wedi iddi ymddeol fel athrawes ysgol mae hi'n treulio llawer o'i hamser bellach yn cyflawni gwaith gwirfoddol - fel ymwelydd carchar, fel ymgynghorydd annibynnol i blant a phobl ieuanc, fel cydlynydd banc bwyd yr ardal ... ond yn bennaf oll fel aelod o'r Samariaid yn Abertawe.
Pwysleisiodd bwysigrwydd gwrando a rhybuddiodd rhag dau berygl (a) cynghori a (b) dweud eich bod yn gwybod yn iawn sut mae dioddefwr yn teimlo. Mae gwahaniaeth mawr, meddai, rhwng tosturi ac empathi. Mae'r gallu i wrando yn llawer gwell sgil i wirfoddolwr na'r demtasiwn i siarad.
Noson ddadlennol a diddorol.