Y dydd Iau aeth heibio (11/2/2016), yn Bodrum, Twrci dechreuodd achos llys Muwafaka Alabash a Asem Alfrhad. Cyhuddir hwy, trwy esgeulustod bwriadol o beri marwolaeth 5 o bobl, ac yn eu plith Aylan Kurdi.
Aylan Kurdi? A aeth Aylan Kurdi’n angof gennym tybed? Boddwyd y bychan; yntau, ei fam a’i frawd Galip. Goroesodd, Abdullah, y tad. Wedi ffoi o ymosodiadau cyson ISIS ar dref Kobani, yng ngogledd Syria, daeth y teulu i Bodrum, Twrci. Liw nos, teithiasant mewn cwch bychan (dinghy) o Bodrum i’r ynys Roegaidd, Kos. Dymchwelyd y dinghy gan y tonnau; lladdwyd 23 o bobl.
A aeth Aylan Kurdi’n angof gennym? Bu’r rhyngrwyd yn plygu dan bwysau'r ymateb i’r llun hwnnw ohono ym mis Medi 2015. Delwedd erchyll ydoedd; corff bychan yn gorwedd yn ewin y don. Cythruddwyd, cynhyrfwyd ni gan y llun hwnnw. Bu’r un llun hwn yn gyfrwng i hoelio sylw Ewrop ar argyfwng ffoaduriaid Syria. Bu’r cyhoedd yn pwyso ar wleidyddion, a’r gwleidyddion yn eu tro yn pwyso ar lywodraeth. Mynnwyd ymateb, ac ymateb a fu.
Ond, diflannodd y llun; tawelodd y rhwydweithiau cymdeithasol, a’r bychan o Syria, bellach yn ddi-sôn-amdano. Pam? Gellid awgrymu fod sylw’r cyfryngau yn symud ymlaen, a’r symud hwnnw’n anorfod gan fod rhaid i’r cyfryngau newyddion ddilyn trywydd y newydd. Erys y consyrn, ond ymlaen yr â llif ein sylw, a’r hashnodau’n newid gyda’r llif. Efallai. Gellid dweud fod Aylan yn angof, gan mai anwadal ein consyrn; oriog ar y gorau yw ein hymateb torfol i wewyr eraill. Mae terfyn i’n gallu i gynnal ein cydymdeimlad ag eraill. Efallai.
Beth gynhyrfodd bobl am y llun hwnnw? Beth gydiodd yn ein dychymyg a thanio ein cydymdeimlad? Nid Aylan Kurdi oedd y bychan cyntaf i foddi ar y ffordd i Ewrop, ac ers ei farw annhymig yntau, bu farw dros 70 o blant eraill oddi ar arfordir Groeg. Ers 1993, bu farw dros 22,300 o bobl yn ffoi rhag terfysg a rhyfel i geisio diogelwch yn Ewrop. ‘Roedd pyrth caer Ewrop yn goch o waed ymhell cyn Aylan Kurdi foddi. Pam deffrowyd ni gan hwn? Beth greodd y fath ymateb ym mhobl y Gorllewin? Gyda gofal, awgrymaf fod yr ateb ymhlyg yn ffaith fod Aylan - Mwslim bychan o Syria - yn edrych yn debyg i ni. Gallasai Aylan fod wedi bod yn un ohonom ni. Gwelsom ein hunain - ein plant a phlant ein plant - yn y plentyn hwn. Un o bennaf hashnodau’r cyfnod oedd #CouldBeMyChild. Heb amheuaeth, ‘roedd y llun yn gofnod erchyll o wastraff marw un mor ifanc, ond ni fu prinder o ddelweddau erchyll tebyg. Er enghraifft, cynhaliwyd angladd ym Malta ym mis Ebrill 2015. Claddwyd 24 arch ym mynwent L’Addolorata, wrth ymyl Valetta. Dim ond y 24 corff hyn a ddarganfuwyd o’r 900 o ffoaduriaid a foddwyd dydd Sul Ebrill 19, 2015. Ni fu ymateb torfol i’r erchylltra hwnnw. ‘Roedd Aylan yn edrych yn debyg i ni, a hynny efallai sydd yn esbonio pam fu'r fath ymateb i’r un llun hwnnw - i’r un farwolaeth honno - er i gymaint o bobl farw cyn ac ar ôl Aylan.
Ymatebasom i farw Aylan gan i ni weld ein hunain ynddo. Dengys trwch o ymchwil fod pobl yn ymateb i’w tebyg, yn cydymdeimlo a’u tebyg. Ond, bod y parodrwydd i ymateb i, a chydymdeimlo â’r rheini sydd annhebyg i ni, yn cael ei lywio gan wisg a lliw eu croen. Mi gredaf, fod ynom - yn amlwg ac yng nghudd - rhagfarnau pendant, a bod y rhagfarnau rheini yn dylanwadu ar ein hymateb i eraill, ein cydymdeimlad â hwy ac felly hefyd ar ein parodrwydd i estyn iddynt gymorth a nawdd.
Ffoadur oedd Aylan. Ymatebwyd iddo gan mor debyg ydoedd i ni, i’n plant a phlant ein plant. Ond beth am y ffoadur gwryw ifanc barfog, y ffoadur tywyll ei groen, neu’r ffoadur mewn hijab neu burka? Ffoaduriaid yw’r rhain hefyd; oni ddylasid ymateb iddynt hefyd mewn cydymdeimlad a chroeso? Pam codi hyn? Yn sgil yr erchylltra ym Mharis, cyhoeddwyd y cartŵn isod yn y Daily Mail (17/11/15):
Portreadir ffoaduriaid yn croesi’r ffin i Ewrop, ac yn gwmni iddynt mae terfysgwyr arfog a llygod mawr. Mae’r neges yn amlwg, a chas. Yn dilyn Paris, caeodd Gwlad Pwyl ei drysau gan wrthod derbyn y cwota o ffoaduriaid a gytunwyd rhyngddynt â’r Undeb Ewropeaidd. Mae dros hanner o Lywodraethwyr Taleithiau'r UDA yn gwrthod derbyn ffoaduriaid o Syria. Mae Awstralia yn ceisio gweithredu polisi lle derbynnir Syriaid sydd yn Gristnogion. Llugoer bu ymateb llywodraeth San Steffan i’r ffoaduriaid, er mynych addewidion i’r gwrthwyneb.
Mae rhagfarn yn real; mae pob lliw a llun o ragfarn yn llethu ein diwylliant. Rhagfarn hiliol, grefyddol, economaidd, rhywiol ... mae’r rhestr yn ddi-ben-draw! Mae ein rhagfarnau yn llywio ein hymateb i eraill.
Mae ymchwilwyr yng Ngholeg Dartmouth yn yr Unol Daleithiau wedi datblygu sgan ymenyddol, sydd, meddent hwy, yn gallu amlygu ein rhagfarn hiliol (Arweinydd yr ymchwil: Jennifer A. Richeson o Adran Gwyddorau Seicolegol ac Ymenyddol, Coleg Dartmouth). Gan ddefnyddio rhywbeth tebyg i Ddelweddu Cyseiniant Magnetig (Magnetic Resonance Imaging, neu MRI) ‘roedd yn bosibl i’r ymchwiliwr i astudio prysurdeb ymennydd yr unigolion a wahoddwyd i sefyll y prawf, wrth iddynt syllu ar luniau o bobl o hil wahanol. Cyfunwyd hynny gyda phrofion eraill a ddatblygwyd i fesur nid gallu ymenyddol yn gymaint ond adnoddau ymenyddol - egni’r ymennydd fel petai. Ymhlith canlyniadau’r ymchwil oedd bod cynnal a chadw rhagfarn hiliol yn blino’r ymennydd, yn ei lethu wir.
Tybed a wnaeth yr ymchwilwyr ildio’i hunain i’r sgan ymenyddol hwn?
Tybed, pa mor barod y buasai’r un ohonom i sefyll y prawf hwn, o’n gwirfodd?
(OLlE)