Heddiw yn 1564, bu farw Michelangelo di Lodovico Buonarroti Simoni (gan. 1475).
Gofynnodd y Pab Julius II (1443–1513 ) i Michelangelo: 'Beth yw cyfrinach dy athrylith, dywed? Sut mae dyn fel ti’n llwyddo i greu cerflun mor ysblennydd â’r ‘Dafydd’ hwn? Dyma gampwaith y campweithiau!'
Dyma, mae’n debyg, ateb Michelangelo: "Mae’n syml; tynnais ymaith bob peth nad oedd yn Dafydd." Er mwyn tanlinellu, maddeued y Saesneg: It’s simple, I removed everything that is not David.
Via Negativa
Beth yw gwaelod a gwraidd ein ffydd? Nyni yn rhoi ein hunain i Grist, a Christ yn rhoi ei hunan i ni. Ffydd yw’r ddwy weithred syml: y derbyn a’r rhoddi. Syml.
Ceisiwch osod o’r neilltu pob peth nad yw’n ‘Dafydd’; ymdawelwch, a chofiwch fod Duw yng Nghrist yn agos atoch yn awr, a hynny, dim ond hynny sydd yn bwysig. Gweddïwch am ei gymorth i roi heibio pob peth nad sydd yn bwysig, er mwyn darganfod yma, nawr gwaelod a gwraidd ein ffydd - y derbyn a’r rhoddi. Crist yn rhoi ei hunan i ni, nyni yn rhoi ein hunain i Grist.
(OLlE)