Fel rwyt ti’n gwybod, mae pawb yn nhalaith Asia wedi troi cefn arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes. Dwi’n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn arbennig o garedig at Onesifforws a phawb arall yn dy dŷ. Mae e wedi codi fy nghalon i lawer gwaith, a doedd ganddo ddim cywilydd fy mod i yn y carchar. Yn hollol fel arall - pan ddaeth i Rufain, buodd yn chwilio amdana i ym mhob man nes llwyddo i ddod o hyd i mi. Boed i’r Arglwydd fod yn arbennig o garedig ato y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod yn ôl! Rwyt ti’n gwybod cymaint o help fuodd e i mi yn Effesus (2 Timotheus 1:15-18; Beibl.net).
Mae Paul yn yr adnodau uchod yn dymuno i’r Arglwydd ddangos trugaredd at deulu Onesifforws oherwydd bod y dyn arbennig hwn wedi codi ei galon droeon. Mae perygl weithiau i ni anghofio fod angen codi calon y sawl sydd yn ein calonogi ninnau. Âi Paul o amgylch yn ysbrydoli ac yn calonogi, ond ceir awgrym bach yn yr hyn a ddywed fod ganddo ef ei ofidiau.
Pa mor llydan bynnag y wên ar wyneb rhywun heddiw, pa mor hapus bynnag y mae’r person hwnnw’n ymddangos, efallai fod angen rhyw Onesifforws arno i godi calon. Clywsoch efallai am Grimaldi - clown enwog. Aeth Grimaldi i ymweld â’r meddyg am ei fod yn teimlo braidd yn isel ei ysbryd, a mentrodd ofyn i’r meddyg am eli i’r dolur. Awgrymodd y meddyg, yn ei anwybodaeth, y dylai'r claf ymweld â’r syrcas yn y dref lle’r oedd clown o’r enw ‘Grimaldi’ yn perfformio. Fe fyddwch yn siŵr o deimlo’n well wedi gweld yr enwog Grimaldi! meddai. Fi yw Grimaldi meddai’r claf.
Cofiwn ei fod yn gyfrifoldeb arnom bob un, bob amser i galonogi'r calonogwyr, i gynnal y cynhalwyr, i weini ar y gweision.
Diolchwn O! Arglwydd am y bobl sy’n rhoi o’u hamser i’n calonogi, hyd yn oed pan gyst hynny’n ddrud iawn iddyn’ nhw eu hunain. Amen
(OLlE)