A ddylid parhau i gofio Cofio? Clywir amryw’n dweud mai amherthnasol yr holl beth erbyn hyn.
Amherthnasol?
Tybiaf fod cofio erchylltra rhyfel mor berthnasol ag erioed. Aeth dros hanner can mlynedd heibio er diwedd yr Ail Ryfel Byd, ond yn y cyfamser sarnwyd byd a bywyd gan gannoedd o ryfeloedd bach a mawr. Sut ellir anghofio’r fath wae a dinistr?
Perthnasol felly yw cadw mewn cof a gweddi'r holl ddioddefwyr, a phawb sy’n ymdrechu i ddwyn ymgeledd a chysur i’w trueni. Wrth inni weld cymaint o ddioddefaint beunydd beunos ar y teledu a’r rhyngrwyd mae’n hawdd inni fynd yn groendew a di-hidio. Felly, perthnasol yw cofio ac annog gofio mai efengyl tosturi a chymod yw Efengyl Iesu Grist, a bod cyfle inni ar Sul y Cofio, ac ar unfed awr ar ddeg, o’r unfed ddydd ar ddeg o’r unfed mis ar ddeg i ailgysegru’n hunain i’w byw a’i lledaenu. Yn edifeiriol, myfyriwn ar y pethau hyn a gwneud gweddi Sant Ffransis yn weddi bersonol i ni.
Arglwydd, gwna fi’n offeryn dy hedd. Lle mae casineb, boed i mi hau cariad; lle mae camwedd, maddeuant; lle mae amheuaeth, ffydd; lle mae anobaith, gobaith; lle mae tywyllwch, goleuni; lle mae tristwch, llawenydd.
O! Feistr Dwyfol, caniatâ i mi gysuro yn hytrach na chael fy nghysuro; i ddeall yn hytrach nag i gael fy neall; i garu yn hytrach na cheisio cael fy ngharu, oherwydd wrth roi yr ydym yn derbyn, wrth faddau yr ydym yn derbyn maddeuant, wrth farw yr ydym yn deffro i fywyd tragwyddol. Amen.
(Sant Ffransis o Asisi (1181?-1226)
Dywedodd Iesu, ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ (Mathew 5.9)
(OLlE)