BETHSAIDA

Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).

Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol, a rhaid wrth y naill a’r llall, gan fod y naill yn cynnal y llall. Mae cyfres Bethsaida yn gyfrwng ac yn gymorth i ddyfnhau ein profiad ysbrydol, ac o’r herwydd ein bywyd defosiynol.

Wedi cyd-ddarllen Salm 51, arweiniwyd ni gan y Gweinidog i ystyried cynnwys rhai o weddïau Iesu. Nodir yn yr Efengylau fod Iesu wedi gweddïo ar rai achlysuron pwysig yn ei fywyd: yng Nghesarea Philipi, pan gydnabu fod Pedr yn iawn i ddatgan: Ti yw y Crist, mab y Duw byw (Mathew 16:13-23; Luc 9:18-22) ‘Roedd hefyd yn gweddïo ar Fynydd y Gweddnewidiad (Luc 11:1-4). Gweddïodd yng Ngethsemane. Rhoddir inni eiriad y weddi (Mathew 23: 39,42; Marc 14:36 a Luc 22:42) O! Dad, os ewyllysi droi heibio’r cwpan hwn oddi wrthyf, er hynny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. ‘Roedd hon yn weddi cwbl arbennig. Y mae iddi elfennau unigryw. Ni fu erioed yn gweddïo fel Iesu yng Ngethsemane. Gweddi ar y ffordd i’r groes ydyw. Gweddi’r chwys fel defnynnau o waed ydyw. Er hynny, y mae ynddi esiampl i bob gweddïwr: sef dysgu dweud: nid fy ewyllys i, ond yr eiddot Ti a wneler.

Nodweddion amlwg gweddïau geiriol Iesu yw iddynt ddigwydd ar adegau argyfyngus yn ei hanes, eu bod yn fyr o ran eu hyd, ac yn glir a phendant o ran eu cyfeiriad a’u cynnwys. A hynny ddaeth â’r cwmni bychan at gyfle i drafod ychydig. Onid 'saeth-weddïau' yw’r gweddïau dwysaf? Gweddïau’n codi sydyn syml o ganol ein goruchwylion beunyddiol; gweddïau a deflir at Dduw o ganol cyfyngderau - ymbil am gymorth neu fynegiant o ddiolch. Trafodwyd yn helaeth dylanwad amgylchiadau ar natur, cysondeb ac angerdd ein gweddïau - heb fod yr hyn a ddigwydd i ni, ac o’n cwmpas yn dylanwadu ar natur ein gweddïau, nid gweddïo a wnawn, dim ond pentyrru geiriau’n ofer.

Liw nos y 14 o Dachwedd 1940 chwalwyd dinas Conventry gan fomio trwyadl dygn y Luftwaffe. Ymhlith yr holl bethau a chwalwyd, chwalwyd hefyd yr hen Gadeirlan.

Trannoeth, dim ond ei furiau carreg oedd yn weddill. O’r adfeilion cymerwyd dwy astell, yn ddu o wres y tân. Clymwyd y naill i’r llall, a chreu croes. Gosodwyd y groes honno yn agos at yr uchel allor, a honno fel pob peth arall ar chwâl. Un mlynedd ar bymtheg wedi chwalu’r Gadeirlan, gosodwyd carreg sylfaen y Gadeirlan newydd. Wedi cerfio’r ddwfn i’r wal tu cefn i’r hen uchel allor mae’r geiriau syml: Father, forgive.

Gweddillion Cadeirlan Coventry trannoeth cyrch y Luftwaffe, 14 Tachwedd 1940

Gweddillion Cadeirlan Coventry trannoeth cyrch y Luftwaffe, 14 Tachwedd 1940

Pan feddylir am y geiriau hyn, daw ffrwd o bethau i feddwl, ac yn bennaf y geiriau ysgytwol rheini o’r Weddi Fawr (Mathew 6:9-13): Maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’r dyledwyr. (Mathew 6:9-13) Mae ‘na amod i’r maddeuant; maddeuir i ni yn unol â’n parodrwydd i faddau i eraill. Atgoffir ni hefyd o eiriau Iesu ar y groes: O! Dad maddau iddynt...(Luc 23:34).

Awgrymodd ein Gweinidog, dull o weddïo a allasai ein cynorthwyo i feithrin parodrwydd i faddau i arall neu eraill. Mae ‘Maddeuant’ yn hawdd, meddai, y ‘maddau’ sydd anodd.

Y man cychwyn yw’r cyfaddefiad na ellir o ddifri - gan mor ddwfn y dolur - weddïo’r geiriau O! Dad maddau...o gwbl! Serch hynny, er waethaf y dolur, gellir gweddïo: O! Dad dymunaf ddymuno cael maddau.

Y cam nesaf, maes o law, yw newid syml, bychan i eiriad a phwyslais y weddi: O! Dad dymunaf gael maddau...‘Rydym gam yn nes at fedru maddau.

Dim ond wedi symud trwy’r camau cyntaf y gellir gweddïo O! Dad maddau...

Wedi trafod gweddi, aethom ati i weddïo. Dyma ddarn o’r weddi honno:

Na chofia, O! Arglwydd, y pethau nas gwnaethom; na chofia, O! Arglwydd, yr addewidion a dorasom; na chofia, O! Arglwydd, y cyfleoedd a gollasom...Adfywia ni, O! Arglwydd.

Wedi’r cyfnod hwn - yng nghwmni Duw gyda phobl Dduw- o hunanymholiad, daeth cyfarfod buddiol arall o 'Bethsaida' i ben.