Jennifer. Pwy yw Jennifer? Mae Jennifer yn gweithio yn y banc lleol. Echdoe, bu Jennifer yn trosglwyddo tair siec i’m cyfrif banc. Ifanc yw Jennifer; tlws ac ewn braidd: Thats a strange name meddai hi, wedi syllu ar bob siec yn ei dro. Sorry? meddwn i. Funny name, how do you say it? Owain. No, your first name. Owain. No, it starts with a 'P': parch - ee - dig...Is that right? Parch - ee - dig? Esboniais mai’r gair Cymraeg am Reverend oedd parch - ee - dig.
Rhoddwyd yr enw i mi cyn fy ngeni i’r byd - nid parch - ee - dig - ond ‘Owain’. Enw tywysog barfog a aned yng nghanol y bedwaredd ganrif ar ddeg - nid bod barf ganddo yn fabi wrth gwrs! Do, rhoddwyd ei enw ef i mi, cyn fy ngeni i’r byd, tywysog nad adnabûm erioed, a’r enw hwnnw’n gortyn yn fy nghlymu wrtho. Bu’r enw ‘Owain’, heb sôn am ‘Llyr’, yn boen i mi wrth fyw fy arddegau lletchwith yn Llundain.
Name? Holodd f’athro dosbarth y diwrnod cyntaf hwnnw yn Beverly School for Boys, New Malden, a minnau’n ateb dan f’anadl ‘Owain’. Name?! yr eilwaith, gyda min. ‘Owain’ yr eilwaith. Oh..way..nh? What sort of a name is that? I’ll call you Dwayne! Llanwodd yr ystafell o chwerthin i’r to.
Ymhen amser, mi ddois i ddeall fod yr enw hwn, nid Dwayne ond ‘Owain’ - yn rhan o’m hetifeddiaeth. Rhodd i mi ydoedd. Y rhodd cyntaf o gannoedd gan fy rhieni; Anne a Byron, y naill a'r llall yn falch iawn o’r enwau a roddwyd, wedi hir a dyfal dewis a dethol, i’w plant.
Felly, beth bynnag yw dy enw, dywed dy enw dy hun yn falch: gan fod yr enw hwnnw’n brawf ein bod ni’n goroesi.
Beth bynnag yw enw dy gymydog, dywed ef yn uchel, gyda gofalus barch gan mai parchedig, nid parch - ee - dig - yw pawb i Dduw.
...gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt. (Eseia 43:1b)
(OLlE)