Heddiw, yn Rouen, Ffrainc yn 1431, llosgwyd Siân d'Arc (Joan of Arc; gan. 1412) wrth y stanc. Ystyriwch y geiriau hyn a osodwyd yn ei genau gan y dramodydd G. B. Shaw (1856-1950): "Neges oddi wrth Dduw sydd gennyf i ti; a rhaid i ti wrando er i’r gair dorri dy galon".
... "Pam yr ydych yn dadlau â mi? Gwnaethoch gamwedd yn f’erbyn, bawb ohonoch," medd yr ARGLWYDD. ... "Pam dywed fy mhobl, ‘Yr ydym ni’n rhydd; ni ddown mwyach atat ti’" (Jeremeia 2:29,31b BCN)
Fel y genedl yma, chwilio am esgusodion mae pobl bob amser wrth geisio osgoi cyfrifoldeb am y drwg a wnaethom, a’r da nas gwnaethom. Y peth olaf y mae’n barod i ddweud yw "Pechais" (Jeremeia 2:35b). Hen esgusodion sy’n para’n newydd a geir yma (Jeremeia 2:29-37): dadlau ein diniweidrwydd, beio amgylchiadau, achwyn am i Dduw a phobl Dduw fethu â’n darbwyllo, neu ddweud mai drwy anghofrwydd , nid o fwriad, yr aethom oddi ar y llwybr.
Awgryma Jeremeia fod dau beth yn gyfrifol am ein pechod. Yn un peth, diffyg diolchgarwch, gwrthod cydnabod y daioni sydd yn ein tywys i edifeirwch. Yn ail, diffyg cywilydd ohonom ein hunain, ac oblegid hynny caledwch calon.
"Neges oddi wrth Dduw sydd gennyf i ti; a rhaid i ti wrando er i’r gair dorri dy galon".
 minnau’n gofyn, O! Dduw, i Ti lefaru wrthyf, gwna fi’n barod i groesawu Dy air, er iddo fod weithiau’n annerbyniol gennyf. Amen
(OLlE)