God’s Frozen People: llyfr, ac iddo ddau awdur: T. Ralph Morton a Mark Gibbs (Fontana, 1964). Mae teitl y llyfr yn awgrymog; trodd God’s Chosen People yn God’s Frozen People. Eglwys mewn cold storage yw Eglwys Iesu Grist ers blynyddoedd lawer; wedi ei dewis gan Dduw i achub y byd, ond yn analluog i gyflawni ei phriod genhadaeth am ei bod hi wedi ei fferru. Hanfod dadl yr awduron yw bod yn rhaid adfer y ‘lleygwr’ i’w briod le yng nghanol bywyd yr eglwys. Dyrchafwyd yr offeiriad a’r gweinidog yn ein heglwysi gan ddiraddio’r lleygwr. Yn y Testament Newydd ei hun y darganfyddai awduron God’s Frozen People pwy yw’r lleygwyr mewn gwirionedd, yn nysgeidiaeth y Testament Newydd am natur Eglwys. Yno, nid yr adeilad ar gornel stryd yw’r eglwys, ond holl bobl Dduw. Yr eglwys leol yn y Testament Newydd yw pobl Dduw yn ymgynnull yn nhŷ hwn-a-hwn, ond yr Eglwys yw holl bobl Dduw drwy’r Ymerodraeth Rufeinig mewn cymdeithas â’i gilydd. Hwynt-hwy yw’r loas - a’r gair hwn a roes inni’r geiriau Cymraeg ‘lleygwyr’ a ‘lleyg'. Beth yw hyn? Nid Newyddion y Sul mo hyn, ond adolygiad o hen hen lyfr! Na, Newyddion y Sul ydyw. Ym mis Mai 2013, cyhoeddwyd Adroddiad o Drafodaethau ac Argymhellion Gweithgor Gweinidogaeth Eglwys Minny Street. Y cyntaf o bum flaenoriaeth a nodwyd i waith a chenhadaeth yr eglwys hon oedd 'Addoliad': Wrth ymfalchïo yn arddull, naws ac ehangder ein haddoliad, teimlai’r Gweithgor bod yna gyfleoedd i gynyddu ymwneud aelodau yn ein hoedfaon. Hyn, nid yn unig er mwyn datblygu 'gweinidogaeth yr holl saint', ond hefyd, fel modd i feithrin cynulleidfa a fydd, gobeithio, yn fwy parod i ymgymryd â threfnu ac arwain oedfaon pan fydd, efallai, mwy o alw (e.e. cyfnod di-weinidog). Cytunwyd bod angen meithrin, ymysg ein haelodau, barodrwydd i gynnig gwasanaeth yn hytrach na disgwyl i rywun ofyn. Gwelwyd hefyd gyfleoedd trwy’r fath ymwneud i ennyn ymdeimlad o gyd-weithio ymysg grwpiau o aelodau’r gynulleidfa.
Bellach, mae pob pumed Sul yn y mis yn gyfle i aelodau’r eglwys i drefnu a chynnal yr addoliad. Buddiol a bendithiol yw hyn. ‘Roedd ein Hoedfa Foreol dan arweiniad aelodau sydd yn byw tu allan y Ddinas. Dyfal bu’r paratoi, a dygn y trefnu i sicrhau fod gan bawb ei le, cyfle a chyfraniad. Pawb a’i waith, a gwaith i bawb wrth gynnal gwasanaeth ac offrymu mawl ac addoliad.
Cawsom banorama o Oedfa: Grawys - Groglith - Pasg - Dyrchafael - Sulgwyn. Diolch i Marian, Delyth a Gareth, Janie, John, Peter a Buddug am ein harwain i dawel ystyried neges bob un, ac arwyddocâd y cyfan oll. Anhepgorion y Grawys yw paratoi, edifarhau, hunanymwadu - y cyfan er mwyn ymdeimlo â phresenoldeb Duw. Arwain y Grawys at yr Wythnos Fawr: hoelion dur, coron ddrain ... ‘Gorffennwyd’ (Ioan 19:30 BCN): allorau gwag, a phob croes tan orchudd. Mae Iesu wedi marw, ac wedi ei gladdu. Mae’r ‘Gorffennwyd’ hwn yn torri ffordd at obaith newydd: nid bedd mo diwedd byw. Arwain deugain diwrnod y Grawys, nid at Sul y Pasg, ond yn hytrach at Dymor y Pasg - 50 diwrnod; 40 diwrnod rhwng Sul y Pasg â Dydd Iau Dyrchafael a 10 arall rhwng y Dyrchafael â’r Sulgwyn. Am hynny tradyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw (Philipiaid 2:9 BCN). Daeth Iesu i’r byd er mwyn bod yn agos atom; esgynnodd i’r gogoniant er mwyn bod yn nes atom! Gwell Crist ynom, na Iesu gyda ni! Dyma her y Dyrchafael - addolwn y Crist dyrchafedig wrth ymddyrchafael, ac ymroi i gyflawni ei bwrpas yn y byd. Dychmygwch storm o fellt a tharanau ... y mellt yw’r Dyrchafael, y taranau yw’r Pentecost - dyfodiad yr Ysbryd Glân. Buom yn traethu, pregethu, cecru ers blynyddoedd am ystyr yr ymadrodd bach lletchwith hwnnw; ond gwrandewch ar eiriau Pedr yn ei bregeth fawr: ... ac fe dderbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd (Actau 2:38 BCN). Mae’r holl beth yn fendigedig o syml: ... derbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. Amod y fendith yw derbyn. Derbyn yr Ysbryd yn rhodd gan Dduw. Ofer pob ymdrech i ddeall yr Ysbryd - ofer astudio, dadansoddi a mesur yr Ysbryd - dim ond ei dderbyn sydd angen: ... derbyniwch yr Ysbryd Glân yn rhodd. Diolch am fendith oedfa ag iddi neges braff a phwrpasol.
Hanes ac arwyddocad John Penri oedd thema’r Oedfa Hwyrol a baratowyd ar ein cyfer gan aelodau Parc y Rhath a’r Mynydd Bychan. Diolch i Alun a Mair, Eleri, Bethan, Ieuan ac Elfrys.
Ym merw crefyddol ail hanner yr 16 ganrif a’r ganrif ganlynol bu farw cannoedd ar grocbren yn Tyburn, Llundain - a ledled Prydain - yn Gatholigion, Protestaniaid a Phiwritaniaid. Ymysg y Piwritaniaid yr oedd John Penri o Gefn Brith, Brycheiniog, a grogwyd yn 29 oed. Ei drosedd oedd beirniadu cyfundrefn grefyddol a gwleidyddol oedd yn rhwystro pobl Cymru rhag clywed yr Efengyl yn cael ei phregethu yn eu hiaith eu hunain - yr iaith Gymraeg. Crogwyd ef ar Fai 29, 1593. Gadawodd weddw, Eleanor, a phedair merch a’u henwau yn adlewyrchu’r ffydd a gynhaliodd John Penri - Deliverance, Comfort, Safety a Sure Hope.
Yn ogystal â bod yn ben-blwydd dienyddio John Penri heddiw, mae eleni yn digwydd bod yn Flwyddyn y Beibl Byw. Cwynai John Penri nad oedd yr Ysgrythur ar gael yn y Gymraeg ac roedd am weld Gair Duw ar gael i Gymry Cymraeg yn yr iaith roedden nhw’n ei siarad ac yn ei deall. Cyhoeddwyd Beibl William Morgan yn 1588 - bum mlynedd cyn crogi John Penri. Cawsom Y Beibl Cymraeg Newydd yn 1988 ac yn ddiweddar bu Arfon Jones gyda ni yma yn Minny Street i sôn am ei waith aruthrol yn paratoi’r trydydd Beibl i ymddangos yn y Gymraeg - sef beibl.net, sy ar gael mewn print ac ar y we. Amcan pob un o’r tri fersiwn o’r Beibl fu cyflwyno’r Gair mewn geiriau cyfarwydd a dealladwy.
Caiff John Penri ei ystyried yn Annibynnwr cyntaf Cymru, ac ef oedd merthyr cyntaf Anghydffurfiaeth Gymreig. Byddwn ni fel Annibynwyr yn dal i anrhydeddu ei enw heddiw: enwyd pencadlys Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar ei ôl, a lluniwyd dyddiadur dychmygol yn cofnodi berw a phrofiadau ail hanner ei fywyd byr gan ein diweddar gyd-aelod, y Parchedig Huw Ethall (1917-2013). Cawsom gyfle i glywed ambell ddyfyniad o lyfr Huw yn ystod yr oedfa heno.
Cafodd John Penri ei eni yn fferm Cefn Brith ger Llangamarch wrth droed Mynydd Epynt yn Sir Frycheiniog yn 1563 - yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth a blwyddyn cyn geni William Shakespeare. Cafodd ei eni felly mewn cyfnod pan oedd yr eglwys Anglicanaidd yn datblygu ac yn ymffurfio - cyn cyhoeddi Beibl Cymraeg William Morgan ac ymhell cyn cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago (y King James Bible) a Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg 1662. Roedd yn gyfnod o dyndra mawr rhwng yr hen Babyddiaeth a’r Brotestaniaeth newydd. 'Doedd crefydd anghydffurfiol y capeli Cymraeg ddim yn bod. Roedd Elizabeth a’i hymgynghorwyr yn ceisio gyrru’r Eglwys i gyfeiriad penodol ond 'roedd yna anghydweld ynghylch dyfodol Eglwys Loegr a bu’r anghydweld hwnnw’n ddylanwad mawr ar fywyd John Penri.
Mae’n eitha’ tebyg i John Penri gael ei fagu, yn ddyn ifanc, yn y traddodiad Pabyddol gan fod trigolion ardaloedd gwledig Cymru’n gyndyn i dderbyn Eglwys newydd Lloegr. Cafodd addysg dda. Bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Peterhouse, Caergrawnt, am bedair blynedd ac yno y daeth i gysylltiad â syniadau a dylanwadau Piwritanaidd. Dyma ddarn byr o ddyddiadur dychmygol Huw Ethall - Dyddiadur John Penri (Gwasg John Penri, 1970) - yn sôn am ddylanwad cyfnod Caergrawnt:
Rhaid cydnabod erbyn hyn, er i mi fynychu’r eglwys gartref yn rheolaidd, crefydd farw oedd gen i - a minnau heb wybod hynny. Nid oes ystyr i grefydd farw nac i Gristnogaeth farw. Nid oes dim byd mwy byw na Christnogaeth ar wyneb y ddaear, ac yn ei chysgod daw popeth arall yn fyw - gwaith, cyfeillion, lle, presennol, dyfodol - popeth. Mae’n debyg mai’r enw cywir ar fy nghyflwr ar hyn o bryd yw ‘tröedigaeth’. Dw i’n gwybod nawr beth yw cael fy argyhoeddi o bechod ac o ras: dw i’n gwybod beth yw sefyll ar drothwy byd newydd y Ffydd.
Wedi graddio yng Nghaergrawnt aeth John Penri ymlaen i Brifysgol Rhydychen, gan ennill gradd MA yno yn 1586.
‘Roedd yr angen am bregethu yn iaith y bobl - yn Gymraeg - yn pwyso’n fawr ar John Penri. Gofidiai am anwybodaeth y Cymry o’r Beibl a’i neges achubol oherwydd bod gwasanaethau a phregethau’r Eglwys yn Saesneg:
Ni ellir gorbwysleisio efengylu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Nid yw iaith yn bwysig i arweinwyr crefyddol yr Eglwys, mae’n amlwg: achub yr enaid fu pregeth yr Eglwys erioed ac mae hynny’n berffaith briodol.
Ond sut y gallwch chi achub enaid pobl mewn iaith nad ydyn nhw’n ei deall? Y meddwl a’r deall yw’r llwybr at yr enaid ond mae’r Eglwys fel petai wedi anghofio hynny. Os nad yw awdurdodau’r Eglwys yn gallu gweld pwysigrwydd iaith i gredinwyr, rhaid eu hargyhoeddi o hynny.
Alla i ddim credu y byddai’r Hollalluog yn caniatáu marwolaeth eneidiau fy nghyd-Gymry trwy wadu eu hawl i gael yr Efengyl yn yr unig iaith maen nhw’n ei deall. Dw i’n rhyfeddu’n aml sut y cadwodd ein teidiau a’n cyndeidiau eu crefydd mewn iaith estron. Ai dyna pam mae crefydd heddiw mor farw yn y tir? Dylai crefydd gynnwys asbri, bywyd a hoen, ond arwyddion marwolaeth sydd i’w gweld yng Nghymru ar bob llaw. Dw i’n credu fod drws yr iaith yn ddrws i’r bywyd mewn mwy nag un ystyr yng Nghymru heddiw. Rhaid, rhaid i’r Efengyl gael ei phregethu yn iaith y bobl er mwyn iddynt ei deall.
‘Roedd sefyllfa crefydd yng Nghymru yn ei boeni cymaint fel y cyhoeddodd John Penri dri thraethawd wedi’u cyfeirio at y Frenhines Elizabeth a Senedd Lloegr yn beirniadu’r Eglwys Wladol yng Nghymru ac yn annog Elizabeth a’r Senedd i sicrhau mwy o bregethu effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Cwynodd fod yna bobl yng Nghymru heb glywed am Dduw na Iesu Grist a bod Cymry’n gorfod gwrando ar bregethau Saesneg a gweddïau Lladin nad oedden nhw’n eu deall. Mynegodd ei farn yn ddi-flewyn-ar-dafod: disgrifiodd esgobion fel llofruddion a llindagwyr eneidiau dynion ac offeiriaid fel cŵn mudion trachwantus. ’Dyw hi’n fawr o syndod na chafodd y traethodau hyn groeso gan y Senedd na’r Frenhines a chafodd John Penri ei arestio ar orchymyn Archesgob Caergaint, Archesgob Whitgift.
Wedi iddo gael ei ryddhau bu John Penri’n cynnal gwasg gyfrinachol yn Lloegr am gyfnod, yn cyhoeddi cyfres o bamffledi yn gwneud hwyl am ben gwendid a llygredd esgobion Eglwys Loegr. Roedd y pamffledi hyn, yn naturiol, yn dân pellach ar groen swyddogion yr Eglwys. Erbyn hyn roedd yr awdurdodau yn Lloegr - Archesgob Whitgift yn arbennig - yn ysu am ei waed. Bu’n rhaid i Penri symud y wasg o le i le er mwyn osgoi cael ei ddal a’i arestio am fod yn annheyrngar i’r Frenhines Elizabeth. Yn y diwedd, yn 1589, bu rhaid iddo ffoi i’r Alban. Erbyn iddo ddychwelyd o’r Alban yn 1592 ‘roedd John Penri wedi troi at garfan grefyddol yr Ymwahanwyr. Credai’r Ymwahanwyr y dylai’r Eglwys a’r wladwriaeth fod ar wahân ac y dylai pob cynulleidfa leol fod yn gyfrifol drosti hi ei hun, er y gallen nhw gydweithio. Dyma wreiddiau’r capeli Cymraeg anghydffurfiol. Aeth John Penri i ymuno ag Ymwahanwyr Llundain. Yno roedd ganddo ei gynulleidfa ei hun a byddent yn cwrdd yn gyfrinachol, yn aml mewn coedwig, er mwyn osgoi cael eu harestio. Ond cafodd Penri ei fradychu gan ficer Stepney a’i arestio ym mis Mawrth 1593. Cafodd ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth, er iddo honni mai ei unig nod fu achub eneidiau pobl Cymru. Er gwaethaf apêl funud olaf at ei gydwladwr, Arglwydd Burleigh, cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Yn y carchar ysgrifennodd lythyrau at ei deulu a’i ffrindiau yn parhau i sôn am angen y Cymry i glywed yr Efengyl yn yr iaith Gymraeg. Gwrthodwyd cyfle iddo weld ei wraig a’i ferched cyn ei ddienyddio. Am hanner dydd, ar ddydd Mawrth y nawfed ar hugain o Fai 1593, cafodd ei glymu ar glwyd a’i lusgo drwy strydoedd Llundain y tu ôl i geffylau cyn ei grogi.
Mae’r Dr John Gwynfor Jones yn disgrifio John Penri fel diwygiwr pybyr. Yr oedd yn feiddgar, egnïol a thanbaid,’ meddai, ‘a gwelai’r angen i adfer gwir grefydd.
Dywedir bod John Penri yn bregethwr arbennig o effeithiol: enillodd ei ddawn iddo’r enw Telyn Cymru. Nid oes lle i amau ei egni, ei ymroddiad a’i radicaliaeth. Nid oes lle i amau ’chwaith y ffydd oedd yn ei yrru a phwysigrwydd y Gair iddo. Dyma ddyfyniad byr olaf o Ddyddiadur John Penri gan Huw Ethall:
Ar adegau dw i’n eiddigeddus o’r eneidiau syml yn yr Eglwys sydd ddim yn pryderu am seiliau a dysgeidiaeth Ffydd. Dyw crefydd ddim yn faich arnyn nhw. Ond dyw crefydd ddim yn fywyd iddyn nhw chwaith.
Bydda i’n mynd yn ôl bob dydd at y Gair a chael ei fod yn siarad â fi’n bersonol. Y Gair sy’n fy nghysuro yw’r Gair sy’n fy nghynhyrfu hefyd. Mae’n esmwytháu ac yn bywhau yr un pryd. Mae’n tawelu fy meddwl aflonydd ac yn ei ddihuno yr un pryd. Nid oes Gair tebyg iddo yn unman na sylfaen mwy diogel, a diolchaf i Dduw amdano.
Wrth bregethu o bulpud eglwys Minny Street y bore Sul aeth heibio (22/5) cyfeiriodd y Parchedig Gwilym Wyn Roberts, at John Penri fel un a oedd yn olyniaeth cewri’r ffydd yng Nghymru - un a oedd wedi adnabod a choleddu grym y Trydydd Dimensiwn Cristnogol, sef dylanwad yr Ysbryd Glân. Cawsom ein hatgoffa gan Gwilym o ddylanwad parhaol a chynhaliol yr ysbryd hwnnw. Derbyniwch Yr Ysbryd Glan (Ioan 20:22 BCN) oedd anogaeth Iesu i’w ddisgyblion. Dyna a wnaeth John Penri, a dyna ddylem ninnau ei wneud - ymagor i rym a gras yr Ysbryd Glân, gan ganiatáu iddo ein hadnewyddu a’n gwneud yn dystion a gweithwyr gonest a gostyngedig i Iesu yng Nghymru heddiw.
Cawsom Sul yn drwch o fendith. Mawr ein diolch.