Er mwyn atgoffa Cristnogion bod dilyn Iesu Grist ar adegau’n golygu dioddef a merthyrdod, fe gadwodd yr Eglwys ŵyl y merthyr cyntaf, a honno ers canrifoedd ... drannoeth dydd Nadolig!
Beth oedd trosedd Steffan (Actau 7:51-60)? Dweud y gwir, dyna’i gyd, a dyna ddigon. Lladdwyd ef o’r herwydd.
Sut allai Steffan ymgynnal o dan y fath bwysau o atgasedd? Cyfrinach Steffan oedd ei fod yn gyfiawn o’r Ysbryd Glân (Actau 7:55 WM), a dyma’r nerth o’r uchelder (Luc 24:49 WM) a addawodd Iesu i’w ddisgyblion.
Mae her yr Efengyl yn fawr; y mae ei gofynion yn drwm, y mae ei safon yn uchel. Ond, nid Efengyl y gofyn yn unig ydyw - cawn ganddi nerth i gyfarfod â’r cyfan.
Yfory, â ninnau’n cofio'r merthyr John Penri (1563-1593) cofiwn hefyd eiriau Awstin Sant (354-430) am Steffan ferthyr: Y mae’r Eglwys yn ddyledus i weddi Steffan am Paul.
Mae 'Dydd John Penri', yn gyfle a chyfrwng i Annibynwyr Cymru gydnabod ein dyled i’r cyntaf o Annibynwyr Cymru; da hynny ond tâl hi ddim i Annibynia sefyll yn rhy hir yn edrych wysg ei chefn, rhag iddi ymgarageiddio. Cofiwn wraig Lot. Diben 'Dydd John Penri' yw cadw cof, ond yr unig gadw call yw adennill: adennill asbri a menter Penri: pregethu i bobl Cymru, roi goleuni Duw i bobl Cymru, dweud am Iesu Grist wrth y Cymry yn eu hiaith eu hunain. Heddiw, fel yn nyddiau Penri, mai prinder gwybodaeth achubol yng Nghymru! Yn y Gymru sydd yn berwi o’n cwmpas, rhaid wrth y fenter, a’r ynni creadigol a dardd o Grist, daw hynny dim ond wrth ymneilltuo o’r hyn y datblygodd Ymneilltuaeth i fod.