'GENESARET'

Wedi croesi at y tir daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53)

Terra Nova ...

Pawb a’i baned, a’i daflen ... ac ar y daflen honno’r geiriau: Byddaf ffyddlon i Gymru a theilwng ohoni; byddaf ffyddlon i’n cyd-ddyn, pwy bynnag y bo; byddaf ffyddlon i Grist a’i gariad ef.

 ninnau ar drothwy Eisteddfod lawen yr Urdd, buom yn fras drafod arwyddocâd a dylanwad yr arwyddair hwn, cyn troi a chanolbwyntio ar: Ffyddlondeb i Grist, trydydd cymal addewid Urdd Gobaith Cymru. Cytunwyd yn sydyn a syml mai dyma sail, sylfaen a symbyliad yr Urdd; ymlyniad wrtho a geidw’r Urdd i gyflawni’r gwasanaeth a fynnai ei roddi i Gymru ac i gyd-ddyn.

Awgrymwyd mai peth hawdd yw trafod Ffyddlondeb i Grist yn fras a chyffredinol; gwell o lawer buasai edrych yn ddyfnach i ystyr EIN ffyddlondeb i Grist. O wneud hynny ymhlith ein gilydd heddiw, ‘roedd y chwech ohonom yn lled gytûn fod Ffyddlondeb i Grist yn golygu ymgysegriad mewn corff, meddwl ac ysbryd. Gwelir ffrwyth cysegriad y corff yng ngwasanaeth ymarferol y Cristion: ein ffydd yn ffordd o fyw, ein credo mewn caredigrwydd. Golyga cysegriad y meddwl ein bod yn gwybod ein crefydd - rhaid cynnig a derbyn hyfforddiant er mwyn cael gafael ar oblygiadau deallol y ffydd a broffeswn. Yn sicr, nid oedd yn rhaid rhoi ystyriaeth hir i gysegriad yr ysbryd cyn i ni sylweddoli o’r newydd mor bwysig yw gweddi a gweddïo. Mae cyd-addoli a chyd-weddïo’n gwbl allweddol i’n ffyddlondeb ni i Grist. Awgrymodd un bod yn rhaid dod i addoli’r Arglwydd, gan feddwl nid am yr hyn y gallwn ofyn ganddo, ond am yr hyn y gallwn roddi iddo.

‘Genesaret’: cyfle am sgwrs a thrafodaeth werthfawr a da. Diolch am fendith yr awr fach hon yng nghwmni’n gilydd wrth ymyl llyn llonydd Parc y Rhath.