Un o enwau’r hen Gymry am yr Haf oedd ‘Hefin’, a rhannent hwy'r haf yn dair rhan. ‘Cynnar-hefin’ y galwent y rhan gyntaf, a hwnnw oedd ein mis Mai ni; ac ar ôl y ‘Cynnar-hefin’ deuai’r ail ran o’r haf. Dyna ‘Fehefin’: hanner neu ganol haf. Yr un yw’r sillaf agoriadol yn Me-hefin ac ym mhentref Meifod - daw’r sillaf honno o air Lladin am hanner neu ganol: Medius. ‘Cynnar-hefin’, ‘Me-hefin’ a’r drydedd ran, y rhan sy’n gorffen yr haf: ‘Gorffennaf’. ‘Cynnar-hefin’, ‘Mehefin’ a ‘Gorffennaf’.
‘Cynnar-hefin’: Ymdawelwn am ychydig heddiw, a chyflwyno i Dduw, mewn hyder ffydd, y plant a phobl ifanc sydd y rhan o liw a phatrwm ein byw.
‘Mehefin’: Canol Haf. Mewn distawrwydd, ystyriwn yn fyfyrgar y rheini sydd yng nghanol prysurdebau, cyfrifoldebau a disgwyliadau eu byw. Cyflwynwn hwynt i Dduw mewn gweddi, gan ddeisyf iddynt ei oleuni i arwain, a’i law i’w nerthu.
‘Gorffennaf’: Meddyliwn yn weddigar am y rheini sydd yn benwynni. Boed henaint iddynt yn garedig. Ymbilwn dros y rhai ohonynt a oddiweddwyd gan wendid.
Yng nghyffro’r gwanwyn pan fo’r ias a’r hud
yn cerdded yn gyfaredd drwy fy myd,
a duwiau swyn yn cymell yn ddi-oed
wrth agor llwybrau fyrdd o flaen fy nhroed,
ar groesffordd gynta’r daith rho imi’r ddawn
i oedi, hyd nes cael y llwybr iawn.
Yn anterth haf a’m dyddiau’n wyn a hir
a’r wybren uwch fy mhen yn fythol glir,
a byw yn wefr o ramant ac o hoen
heb eisiau dim, heb flinder a heb boen:
yn oriau llwyddiant, Arglwydd, gwared fi
rhag credu bod digonedd hebot ti.
Yn stormydd diarwybod hydref crin
y brofedigaeth neu’r afiechyd blin,
pan guddio’r haul ei wyneb ennyd awr
a llen o gaddug rhyngof fi a’r wawr,
rho nerth im gredu y daw eto ddydd
o gerdded yn dy law ar lwybrau ffydd.
Yn oerni gaeaf blin y cur a’r loes
pan syrth o’m cylch gysgodion diwedd oes,
a minnau mewn unigrwydd yn fy nghell
yn methu byw ar wres yr hafau pell,
rho ffydd i bwyso ar dy air y caf
oroesi’r gaeaf mewn tragwyddol haf. Amen
(T.R.Jones; C.Ff:777)
(OLlE)