Efe a’m dug i’r gwindy, a’i faner drosof ydoedd gariad.
(Caniad Solomon 2:4 WM)
Nid baner i’w ddilyn a geir yma, ond arwydd o gyfarfod. Awgrymir gan ambell esboniwr mai cyfeiriad sydd yma at arfer yr hen werthwr-gwin a chwifiai faner ar ei dŷ i ddangos fod gwin mewn stoc ganddo.
Arwyddion yw banerau, ac yn y fan hon mae’r faner yn arwydd o gariad. Dynoda lle mae cariad yn trigo: yma ceir cariad. Cyfeiria’r Gân mewn lle arall at ferch â’i thegwch yn urddasol fel llu banerog (6:4,10). Dyma rym cariad Duw: nid rhywbeth meddal, sentimental mohono - y mae’n fyw a deinamig.
Benthycwn brofiad John Thomas, 1867-1938 yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Chwifiwn faner cariad
yn awelon nef;
eiliwn beraidd ganiad
fythoedd ‘Iddo Ef’. Amen.
(OLlE)