WINNIE THE POOH, 'BUILD A BEAR' A'R PROFFWYD JEREMEIA

'Munud i Feddwl' ein Gweinidog

Heddiw, yn 1882 ganed Alan Alexander Milne. Gellid awgrymu felly mai heddiw yw pen-blwydd Winnie the Pooh. Arth yw Winnie wrth gwrs, a bu arth neu dedi yn gwmni ac yn gysur i’r rhan fwyaf ohonom yn ein plentyndod.

Wedi meddwl, onid rhyfedd yr arfer hwn o roi arth i blentyn yn gysur ac yn gwmni? Wedi’r cyfan, nid yw eirth y gorau o gwmni! Creaduriaid brawychus yw eirth. Mynnai Dennis R. Blanchard yn ei gofnod o gerdded y Llwybr Appalachaidd: All of the authoritative books on bears seem to agree on one thing: if you're close enough to a bear to cause it to change its activity pattern, you're too close, and in possible danger. Mae James Rollins, o’i brofiad o eirth gwynion yn awgrymu fel hyn: Always respect Mother Nature. Especially when she weighs 400 pounds and is guarding her baby. Dyma adnod (erchyll) o’r Beibl: ... daeth dwy arth allan o’r goedwig a llarpio dau a deugain o’r plant (2 Brenhinoedd 2:24 BCN).

Rhyfedd iawn yw’r arfer o droi creadur mawr a brawychus yn gyfrwng cysur i blentyn bach. Rhaid bod ‘na rheswm a rhesymeg, ond dwi’n hoffi meddwl fod a wnelo’r cyfan â’n hawydd i ddofi’r gwyllt, a’r pennaf wylltineb yw gwylltineb yr hunan. Gwyddom, ein hunain, mor bwysig yw dofi’r hunan. ‘Y dyn y cefais i fwyaf o drafferth gydag ef, meddai’r Efengylydd Americanaidd Dwight L. Moody (1837-1899), ‘oedd Dwight L. Moody’. A dyna, wrth gwrs yw’r gwir plaen am bob un ohonom. Nyni ein hunain yw’r drafferth - nyni ein hunain yw’r arth.

Eleni, mae BAB yn dathlu ugain mlynedd mewn busnes. Beth yw BAB? Build a Bear. Gan fod fy mhlant innau wedi rhoi heibio bethau’r plentyn nid oes i BAB yr un apêl ag y bu. 'Roedd ‘na gyfnod pan oedd cerdded heibio i siop BAB bron iawn yn amhosibl! Dwi’n cofio iddynt ddychwelyd adre’ o un ymweliad gydag arth yr un, a stori fawr fawr am yr holl broses. (Dyma, gyda llaw, yw athrylith BAB). Mae graddfa o stwffin: solet neu feddal. Ym mhob arth gosodir calon fach. Gan ddibynnu ar brysurdeb ac ymroddiad y staff, mae ‘na ddefod fechan ynghlwm wrth y galon fach hon: gosodir darpar galon yr arth wrth galon y plentyn gan greu cysylltiad - calon wrth galon - rhwng y naill a’r llall. Golyga hyn oll nad oes y fath beth ag ymweliad sydyn â siop BAB!

Gwelaf awgrym o ddameg yn Build a Bear - dameg o ymwneud Duw â ni fel pobl. Ystyriwch yr adnodau hyn o broffwydoliaeth Jeremeia: "Y mae’r dyddiau’n dod," medd yr ARGLWYDD, "y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. Ni fydd yn debyg i’r cyfamod a wneuthum â’u tadau, y dydd y gafaelais yn eu llaw i’w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yr arglwydd arnynt," medd yr ARGLWYDD. "Ond dyma’r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny," medd yr ARGLWYDD; "rhof fy nghyfraith o’u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi’n Dduw iddynt a hwythau’n bobl i mi ..." (Jeremeia 31:31-33).

... rhof fy nghyfraith o’u mewn. Yn lle cyfraith allanol, sydd yn mynnu ufudd-dod oer, mecanyddol, ceir cyfraith newydd, a honno o’n mewn i ddynodi undeb ewyllys person â Duw. Troi’n gân, nid yn orthrwm, mae’r gyfraith sydd ynom. Dofir 'arth' yr hunan pan osodir cyfraith Duw yng nghalon person. Deall a derbyn hyn sy’n ein rhyddhau o ormes llethol hunan. Calon crefydd yw crefydd y galon.

(OLlE)