O fis i fis adlewyrchir holl ystod amrywiaeth ein haelodaeth yn a thrwy gyfrwng y gwahanol gyfeiriadau y cymer ein Hoedfa Gynnar; ceir ynddi enfys o wahanol bwyslais, thema a neges. Yr unig beth sydd gyson yw’r fendith a gawn fel eglwys. Yn arwain yr Oedfa Gynnar heddiw oedd Llŷr Gwyn Lewis a Heledd Lewis, a chawsom ganddynt oedfa hwyliog, berthnasol a chwbl Grist ganolog!
Yn sŵn hyfryd eiriau W. J. Gruffudd (CFf.:136)
Mae ei Ysbryd yn ymsymud
Eto dros y cread mawr,
Bendigedig fyddo’r Arglwydd,
Halelwia nef a llawr!
fe’n harweiniwyd ni gan Heledd at ddiwedd hanes y ddau yn cerdded i Emaus (Luc 24: 28-31). Cymerodd Llŷr yr awenau gan ddangos cyfres o luniau. Dyma’r cyntaf o ardal Magadan yn Rwsia. Beth i chi’n weld tybed?
Welwch chi rywbeth yn y llun isod?
Beth am y llun hwn gan Wenceslaus Hollar (1607-1677)? Chi’n gweld, tybed?
Beth pe bawn yn gwneud fel hyn?
Cafwyd ymateb da i’r lluniau hyn a sawl un arall, a phawb - o’r ieuengaf i’r hynaf - yn trafod, a rhyfeddu wrth weld yr hyn oedd ynghudd ynddynt. Awgrymodd Llŷr fod yr hyn a ddylid ei weld, a’r hyn a welir, yn wahanol iawn i’w gilydd; ac wrth gwrs wedi gweld, mae’n amhosibl dad-weld! Mae enw i’r ffenomen hon, sef Pareidolia. Dyma’r duedd, sydd bron yn reddf ynom, i adnabod wynebau neu batrymau lle nad oes batrymau ac wynebau! Awgrymodd Llŷr fod rhywbeth tebyg yn digwydd yn ein hymwneud ag Iesu. Yng nghanol cymhlethdod cymhlethdodau ein byw a’n bod, mae’n anodd gweld y patrwm a phopeth yn ymddangos yn un cawdel anniben. O graffu’n ofalus, neu edrych ar rywbeth mewn ffordd wahanol daw wyneb Iesu i’r amlwg. Canfyddwn ei arweiniad a’i gynhaliaeth yn y sefyllfaoedd a phobl fwyaf annisgwyl. A ninnau bellach yng nghyfnod y Grawys yn troi’n golygon at y Pasg, cofiwn am Mair Magdalen yn gweld Iesu heb ei weld. Dywedodd y ‘garddwr’ hwnnw, ‘Mair’. Un gair, ‘Mair’, a gwelodd Mair mai Iesu ydoedd. Yr un modd, y ddau yn cerdded tuag Emaus; meddai Luc: rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef (24:16). Nid ydynt yn gweld y patrwm; mae wyneb Iesu wedi ei guddio rhagddynt. Wedi’r teithio, yn hwyr y dydd, mae’r ddau yn cymell y dieithryn hwn i aros gyda hwy, a gyda’r fendith a thorri bara: agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef (24:31). Maen nhw’n methu credu na welsant ef! 'Roedd yr holl arwyddion yno! Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni? (24:32)
Pan mae’r byd a’i bethau yn llawn sŵn a thrafferth, pan mae holl brysurdeb ein byw yn pwyso’n drwm arnom, dylem oedi, syllu eto, craffu o’r newydd, a gweld bod Iesu yno, yn gysur a chymorth i fyw. Unwaith y byddwn wedi gweld hynny, amhosibl fydd ei ddad-weld!
Wedi gair o weddi, fe’n harweiniwyd at eiriau J. Tywi Jones (1870-1948):
‘Rwy’n troi fy wyneb, Iesu da,
O bobman atat ti,
Ym merw blin y byd a’i bla
Dy wedd sy’n hedd i mi;
Ni chefais, naddo, mewn un man
Un balm i’m calon drist
Nac enw swyna f’enaid gwan
Ond enw Iesu Grist.
‘Rwyt ti i mi yn gadarn dŵr
Ym merw mawr y byd;
Cyfnewid mae meddyliau gŵr,
Tydi sy’r un o hyd;
Dan bwysau cynyrfiadau’r oes
Fe sudda f’egwan ffydd,
Ond yng nghadernid Crist a’i groes
Fy iachawdwriaeth sydd.
(CFf.:369)
Cafwyd budd a bendith o’r Oedfa hon, a mawr ein diolch i Heledd a Llŷr.
Rhwng y naill Oedfa fore a’r llall cafwyd cyfle am baned, sgwrs a brecwast ysgafn sydyn, heb anghofio’r nwyddau Masnach Deg a chyfrannu i’r Banc Bwyd.
‘Roedd ein Gweinidog yn dechrau heddiw ar gyfres pregethau’r Grawys. Y thema eleni yw Ffydd a Thrais. Wrth ddilyn newyddion y dydd, hawdd iawn ymollwng i ddigalondid ac anobaith; yn arbennig o glywed yr hyn a wna pobl yn enw crefydd. Canlyniad digalonni yw ymddieithrio, ymdawelu ac ymneilltuo.
Mae storm yn bygwth fflam ein ffydd heddiw. Amheuir crefydda a chrefyddwyr. Naturiol ddigon ymguddio - ymneilltuo. Mewn storm fel hon, mae mwy o alw arnom, nag erioed, i ddatgan mai pobl Dduw ydym.
Onid oes gwenwyn yn llifo yng ngwythiennau ein crefydd; onid dyna pam bod rhai yn ein plith yn pregethu casineb yn enw cariad? Ni thâl i’r un Cristion anwybyddu’r fath hwn o wyrdroi ar ein ffydd.
Pa bethau sydd yn rhaid i ni gydio'n dynn ynddynt er mwyn gweinidogaethu i fyd cas a gwaedlyd 2016? Gweddi ac addoliad, trafod ac ymdawelu! Gochelwn rhag ymddieithrio o gymdeithas a chynhaliaeth yr eglwys leol.
Er i’r Oedfa orffen; cafwyd cyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref.
Liw nos, Anobaith oedd testun ein sylw. Yn ddyddiol bron, cawn wybod faint o bobl a laddwyd, ymhle, a phwy oedd yn gyfrifol. Canlyniad anochel y gwybod hwn yw ymsuddo i anobaith tawel a dwfn. Awgrymodd y Gweinidog fod angen clywed neges profiad Primo Levi, 1919-87): Not only … selection for the gas chambers but also in the grind of daily life, believers lived better … Catholic and reformed priests, rabbis of various orthodoxies, militant Zionists, naive or sophisticated Marxists and Jehovah’s Witnesses - all held in common the saving force of their faith. Their universe was vaster that ours. They had a key and a point of leverage.
Soniai Levi am point of leverage: trosolbwynt. I bobl Dduw yng Nghrist, y trosolbwynt yw anogaeth Iesu: nac ofna, ond cred (Marc 5: 36). Mae ein hofnau yn real; mae trais, terfysg a lladd yn real. Mae’r Cristion â’i ofnau, ond nid oes ofn arno. Pam? Mae gennym echel a’n galluoga i symud holl bwysau ofn o’r neilltu: ... codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd (Ioan 16: 33).
Sul llawn a gafwyd - llawn bendith, llawn her. Bydd y Gweinidog y bore Sul nesaf (21/2), gyda’r plant a’r plantos, yn ystyried ychydig eto o arwyddocâd y rhif 6. Am weddill yr Oedfa, parhawn gyda’r gyfres Efengyl Marc a’r Flwyddyn 70 gan droi at Marc 3:31-35: 'Mam a Brodyr Iesu'.
Liw nos, parhawn gyda’r gyfres Ffydd a Thrais. Ideolegau mewn gwrthdrawiad (2 Corinthiaid 5:19) ffydd gwrthrych ein sylw y tro hwn.
Boed bendith.