Grawys 2016: Ffydd a Thrais 2: yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd (Ioan 16:33)
Trais, terfysg, lladd. Efrog Newydd, Medi 2001 - 2996; Irac, 2007 - 796; Irac 2013 - 449; Iran 1978 - 422; Nigeria 2014 - 336; Beslan 2004 - 334; Beirut 1983 - 307; Lockerbie 1988 - 270; Angola 2001 - 252; Bombay 1993 - 252; Kenya 1998 - 224; Mumbai 2006 - 209; Bali 2006 - 202; Madrid 2004 - 191. Yn ddyddiol bron, cawn wybod faint o bobl a laddwyd, ymhle, a phwy oedd yn gyfrifol. Canlyniad anochel cael gwybod cymaint yw ymsuddo i anobaith tawel a dwfn. Mae’r anobaith hwn yn lladd; lladdir yr ysbryd o’n mewn gan anobaith. Mae angen eli i ddolur anobaith.
Yr Ail Ryfel Byd. Gellid dweud nad y drwg a orfu. Amhosibl dweud mai daioni a orfu; awgryma hynny fod y rhyfel yn wrthdaro syml, glân a thryloyw rhwng y da a’r drwg. Gwenwyna rhyfel pob daioni. Pam? Rhaid defnyddio’r union ddrwg a geisiwn ei ddileu i ddileu’r drwg. Bu’r Drydedd Reich yn ddygn, dyfal a dyfeisgar, a’r canlyniad yn Ewrop rhwng 1933 a 1945 oedd, nid casineb mympwyol tyrfa ddilywodraeth, ond ymgais fwriadus, systematig i ddifa’r Iddewon, yn ddynion a merched, hynafgwyr a phlant. Ni lwyddodd yr ymgais oherwydd dycnwch dyfal a dyfeisgar yr ysbryd dynol. Gall yr ysbryd hwnnw fod yn arwrol o fawr, ac yn rhyfedd o gadarn.
Not only …selection for the gas chambers but also in the grind of daily life, believers lived better … Catholic and reformed priests, rabbis of various orthodoxies, militant Zionists, naive or sophisticated Marxists and Jehovah’s Witnesses - all held in common the saving force of their faith. Their universe was vaster that ours. They had a key and a point of leverage. (Primo Levi, 1919-87) Mae angen clywed hyn! Pam? Primo Levi; awdur, dioddefwr, goroeswr, ond nid credadun. Ymwrthododd â chrefydda a ffydd ymhell cyn ei gyfnod yn Auschwitz. Ni fu’r hyn a welodd ar waith yn cynnal a chadw credinwyr yno yn ddigon i greu credadun ohono. Gwrthododd gredu, ymwrthododd â ffydd, ond gwelodd fod pobl ffydd yn meddu ar rywbeth nad oedd ganddo: Their universe was vaster … They had a key and a point of leverage. Ymlyniad i rywbeth fwy na’u hunain, a’r ymlyniad hwnnw yn gyfrwng i wynebu ar erchylltra Auschwitz a goroesi - mewn ysbryd, os nad mewn corff.
Bertrand Russell (1872-1970). Cafodd ei arwain i garchar am ei ran yn y brotest yn erbyn arfau niwclear. Pam mynd i’r fath drafferth? Pam oedd Bertrand Russell yn teimlo’r rheidrwydd i fynd i brotestio? To be truly human, meddai, it is necessary to care deeply for things which will not come to pass until long after we’re gone. Un o hanfodion ein dynoliaeth yw cydnabod ein dyled i’r gorffennol: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i’w llafur hwynt (Ioan 4: 38). Nid digon cydnabod ein dyled i ddoe, rhaid hefyd diogelu, datblygu a throsglwyddo'r etifeddiaeth i’r dyfodol. Canlyniad anobaith yw peidio rhag-ddarparu, gan gredu nad oes dyfodol. Nid credadun Bertrand Russell. Anodd peidio gweld yn ei argyhoeddiad adlewyrchiad o’n hargyhoeddiad fel pobl ffydd.
Soniai Levi am point of leverage, trosolbwynt. I bobl Dduw yng Nghrist, y trosolbwynt yw anogaeth Iesu: nac ofna, ond cred (Marc 5: 36). Mae ein hofnau yn real; mae trais, terfysg a lladd yn real. Mae’r Cristion â’i ofnau, ond nid oes ofn arno. Pam? Mae gennym echel a’n galluoga i symud holl bwysau ofn o’r neilltu: ... codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd (Ioan 16: 33). Mae’r afael sicraf fry meddai Pedr Fardd (1775-1845; C.Ff.677). Y ffaith honno yw’r point of leverage. Nid dal gafael ar Dduw yw ffydd; ffydd yw credu, mynnu credu, annog-gredu fod Duw yn dal ei afael arnom ni, yn dal ei afael ar y byd, ar bawb o bob y byd, a bod ei afael yn oesol ddiogel.
‘Rydym yn byw mewn cyfnod o drais, terfysg a lladd. Mae ein hofnau yn real; ond nid oes ofn arnom. The arc of the moral universe is long, but it bends towards justice, freedom, equality and love (Martin Luther King, 1929-1968). Canlyniad anochel cael gwybod cymaint am gymaint o erchylltra yw ymsuddo’n raddol i anobaith tawel, dwfn. Canlyniad anobaith yw ofn. We have a key and a point of leverage. Yn wyneb uffern trais, terfysg a lladd, credwn fod yna un peth sy’n gallu mynd - fel dywedodd Pantycelyn (1717-1791) - yn is nag uffern ac yn uwch na’r nef: nac ofna, ond cred ... codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd.