Grawys 2016: Ffydd a Thrais 1: Rhagymadrodd
Wrth ddilyn newyddion y dydd, hawdd iawn ymollwng i ddigalondid ac anobaith; yn arbennig o glywed yr hyn a wna a dywed pobl yn enw crefydd. Er cynnwys elfennau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol, tuedda crefydd i drydanu’r tensiynau - ei ‘sancteiddio’. Tensiwn a ‘sancteiddiwyd’ yw’r dyfnaf, cymhlethaf a pheryglaf? Oni cheir pwyslais cyson - a chamarweiniol - fod rhyfel sanctaidd wrth wraidd Islam? Na anghofiwn holl erchyllterau'r Croesgadau; hynny dan arwydd y Groes, ac er gogoniant i Dduw! Nid crefydd Islam sydd beryglus, crefydd sydd beryglus. O’r cychwyn, ysbrydolwyd pobl gan grefydd i ladd. Onid addolwyr oedd Cain ac Abel (Genesis 4:1-15); mae i’r allor a’r offrwm eu lle ym mywyd y ddau. Erchylltra oesol gyfoes yw bod y weithred o offrymu yn troi’n achlysur i ladd. Dros y canrifoedd bu crefydd, y grym a ddylai uno pobl gyda’i gilydd mewn cwlwm tangnefedd a gwasanaeth, yn gyfrwng i greu ymrafaelion a rhwygiadau. Yn ei Efengyl nid cynnig crefydd newydd a wna Iesu. Yn hytrach, cynnig fywyd newydd. Oni gorwedd yr un pwyslais wrth wraidd Islam ac Iddewiaeth? Cyfrwng yw crefydd, nid nod; y nod yw bywyd newydd. Pan dry crefydd yn nod, yr unig gyfrwng i gyrraedd y nod yw trais; cysegru gorthrwm, sancteiddio bom, gwn a chyllell. Ffydd yw crefydd fel cyfrwng; eilunaddoliaeth yw crefydd fel nod. Canlyniad digalonni o wrando ar y newyddion yw ymddieithrio, ymdawelu ac ymneilltuo.
Ymneilltuo: "I ddechrau daethant am yr Iddewon ac ni chodais fy llais - achos doeddwn i ddim yn Iddew. Yna daethant am y comiwnyddion ac ni chodais fy llais ... Yna daethant amdanaf - a doedd neb ar ôl i godi llais ar fy rhan i." Geiriau Martin Niemöller (1892-1984), diwinydd a fu’n ddraenen ym mhawen Adolf Hitler (1889-1945). Yn 1937, rhyw wythnos cyn ei garcharu gan y Natsïaid, pregethai Niemöller ar y testun: ... chwi yw goleuni'r byd (Mathew 5:14a). Meddai, "oni themtir ni weithiau i ddwyn y gannwyll i mewn a’i chadw’n ddiogel nes i’r storm fyned heibio ... Ond peidiwn â gwneud hynny! Oni ddywed Iesu ... Rhowch y gannwyll ar ganhwyllbren, a gadewch y canlyniadau i mi." (Dachau Sermons 1945; Harper & Brothers). Er yng nghanol storm enbyd, credodd Niemöller na allai gwyntoedd geirwon fygwth na diffodd y fflam a losgai ar gannwyll ei ffydd yn Nuw. Mae storm yn bygwth fflam ein ffydd heddiw. Amheuir crefydda a chrefyddwyr. Naturiol ddigon ymguddio. Hawdd ddigon, â’n ffydd allan mewn tywydd mawr, yw i grefydd greu ymneilltuwyr ohonom. Mewn storm fel hon, mae mwy o alw arnom, nag erioed, i ddatgan mai pobl Dduw ydym. Duw sy’n mynnu symud pob pellter i fod gyda ni i’n cymell i droi ein ffydd ynddo yn ffordd iach o ymwneud ag eraill. Ni yw cenhadon ei bwrpas cariadlawn, ei weithwyr mewn cymdeithas.
Enynnaist ynof dân perffeithiaf dân y nef
Ni all y moroedd mawr, ddiffodd mono ef ...
(William Williams, Pantycelyn,1717-91; C.Ff. 314)
Ymdawelu: Onid oes gwenwyn yn llifo yng ngwythiennau ein crefydd; onid dyna pam bod rhai yn ein plith yn pregethu casineb yn enw cariad. Er na thâl i’r un Cristion anwybyddu’r fath hwn o wyrdroi ar ein ffydd, ein tueddiad yw tawedogrwydd. Mae tawedogrwydd pobl ffydd yn llafar; mae ein hamharodrwydd ni i godi llais, i godi llaw a chodi ar ein traed yn erbyn rhywbeth yn cael ei weld a’i ddeall fel arwydd o’n cefnogaeth i’r peth hwnnw.
Ymddieithrio: Pan glywodd Iesu am lofruddiaeth Ioan Fedyddiwr bu iddo chwilio am le unig o’r neilltu (Mathew 14:13). ‘Roedd angen amser arno i geisio ymdopi â sioc ei golled. Ar yr union adeg pan oedd am iddo gael amser ar ei ben ei hun, glaniodd i ganol tyrfa o bobl! Tosturiodd wrthynt, ac iachau’r cleifion yn eu plith. Er diwallu anghenion y dyrfa, ni laciodd ei afael ar ei anghenion ei hun. Wedi anfon y disgyblion o’i flaen ... aeth i fyny’r mynydd o’r neilltu i weddïo (Mathew 14: 23). Wrth barhau ei weinidogaeth i fyd cas a gwaedlyd, mynnodd Iesu neilltuo amser i weddïo. Gweddi ac addoliad, trafod ac ymdawelu! Dyma’r union bethau sydd yn rhaid i ni gydio'n dynn ynddynt er mwyn gweinidogaethu i fyd cas a gwaedlyd 2016.
Gochelwn! Pethau peryglus yw ymddieithrio, ymdawelu ac ymneilltuo.