Y mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn fwy tebyg i wanwyn na Hydref ym mywyd eglwys Minny Street. Mae ‘na fwrlwm yma yn ein plith, a diolch amdano. Bu’r Oedfa Deulu’n fwrlwm o fendith. Wedi derbyn adnodau'r Oedolion (y thema heddiw oedd 'Diolch'), daeth cyfle i Mari Fflur i arwain ein defosiwn: stori Arch Noa, ac yna'r weddi hon:
Pe bawn i yn iâr fach yr haf
diolchwn i ti am adenydd braf.
a phe bawn i yn robin ar y pren
diolchwn i ti am gael hedeg drwy'r nen;
a phe bawn i yn frithyll bach
diolchwn am afon i nofio mor iach;
ond diolch, diolch, O! Dad, am fy ngwneud i yn 'fi'.
Pe bawn i yn fwydyn yn y pridd
diolchwn i ti am gael symud yn rhydd;
a phe bawn i oen bach gwyn
diolchwn am brancio ar ben y bryn;
a pha bawn i yn arth mawr, tew
diolchwn i ti am fy nhrwch o flew:
ond diolch, diolch O! Dad, am fy ngwneud i yn 'fi'.
...fe roddaist im wên, ac fe roddaist im gân,
fe roddaist im Iesu a chalon lân,
a diolch, diolch, O! Dad, am fy ngwneud i yn 'fi'. Amen
(Brian Howard cyf. Hywel M. Griffiths CFf.149)
Cafwyd awgrym o thema'r Oedfa yn newis y Gweinidog o emynau: 2, 222 a 22. Ie, y rhif 2. Aeth y Gweinidog i ddryswch mawr yn ceisio cael trefn ar ei ddeuoedd! Pwy glywodd erioed am 'Nodwydd' a 'Pupur'? Neu 'Bwced' a 'Martha'? Mewn byr amser, ‘roedd y plant wedi cael pob dau yn gywir: 'Nodwydd' ac 'Edau'; 'Pupur' a 'Halen', 'Dafydd' a 'Jonathan'; 'Tom' a 'Jerry', 'Hansel' a 'Gretel', 'Mair' a 'Martha'; 'Bwced' a 'Rhaw', 'Hen Destament' a 'Testament Newydd', 'Pedr' ac 'Andreas', 'Crist' ac 'Iesu'.
Gan ddileu pob un o'r deuoedd, ar wahân i ‘Pedr’ ac ‘Andreas’; ‘Mair’ a ‘Martha’; ‘Dafydd’ a ‘Jonathan’ a ‘Crist’ ac ‘Iesu’, awgrymodd y Gweinidog fod yma ddiffiniad o eglwys. Nid oedd y plant a’r plantos yn argyhoeddedig! Ond...
‘Pedr’ ac ‘Andreas’ - BRODYR
‘Mair’ a ‘Martha’ - CHWIORYDD
‘Dafydd’ a ‘Jonathan’ - FFRINDIAU
‘Crist’ ac ‘Iesu’ - IESU GRIST.
Onid BRODYR a CHWIORYDD, FFRINDIAU IESU GRIST yw’r eglwys leol hon, a phob eglwys ym mhob man?
Siarsiwyd y bobl ifanc i chwilio am ychydig adnodau yn ei Beiblau: Luc 21: 1-4. Shani a orfu. Ei gwobr? Tamaid o siocled a gorfod darllen yr adnodau ar goedd! Dwy hatling - dwy geiniog fach - oedd gan y wraig weddw honno; offrwm bychan iawn. Bwriad y Gweinidog meddai, oedd dangos y gwahaniaeth sylweddol iawn a ddaw trwy beth bach. Dechreuodd gyda 2 x 2 = 4, ac ymlaen 4 x 2 = 8; 8 x 2 = 16, 16 x 2 = 32, ac ymlaen yr holl ffordd i 65,536 x 2 = 131,072! Er nad oes gennym lawer i gynnig, mae’r hyn all ein Duw gyflawni â’r ychydig sydd gennym yn rhyfeddol! Ond, rhaid i ni fod yn barod i gynnig i Dduw'r hyn oll ydym, a dyna yw pob Oedfa; cyfle i addoli: ystyr y gair Cymraeg ‘addoli’ yw plygu. Arweiniodd hyn at stori am Mr a Mrs Jiráff. ‘Doedd drws Arch Noa ddim yn ddigon uchel i Mr a Mrs Jiráff cael mynd mewn! Beth fu’n rhaid gwneud tybed? Gwneud y drws yn fwy efallai? Nage. Daeth Noa, a dweud yn garedig iawn wrth Mr a Mrs Jiráff bod yn rhaid iddynt blygu i fynd i mewn i’r arch. Mae rhaid i ni blygu hefyd, a dyna a wnawn wrth addoli: plygu i fwriad Duw. Boed i ni, o ddifrif, blygu i fwriad Duw, a boed i’r cyfan a wnawn fod yn unol â’i ewyllys ef.
Benthycwyd geiriau Myfyr Hefin (1874-1955) fel gweddi:
Dau lygad byw sydd gennyf
i edrych at y nod,
sef Iesu Grist ein cyfaill:
Efe sy’n haeddu clod.
Dwy glust fach fyw sydd gennyf
i wrando Iesu cu,
sy’n galw’n fwyn bob amser, -
‘0! Deuwch ataf fi’
Dwy droed fach ddel sydd gennyf
i rodio llwybrau Duw;
ei wasanaethu’n gyson,
a’i garu tra fwyf byw.
Dyma ein neges, dyma ein neges, -
gweithiwn yn gyson tros Iesu,
tros Iesu ein cyfaill ni. Amen.
Testun ein sylw yn yr Oedfa Hwyrol oedd pennod hynod gyfoethog o broffwydoliaeth Eseia. Cynnwys pennod 55 rai o’r ymadroddion mwyaf annwyl a gwerthfawr sydd yn perthyn i’n ffydd: Dewch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno...(55:1); Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos...(55:6); ...nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD (55:8); Mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn heddwch y’ch arweinir...(55:12a). Aeth y Gweinidog i’r afael â’r adnod olaf: Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd y lle mieri (55:13a). Addewid a gweledigaeth oedd y geiriau i Eseia, a dyna ydynt i ninnau. ‘Roedd amodau pendant i gyflawniad o’r addewid i bobl Eseia, ac i ninnau’r un modd. Os oedd Duw yn addo pethau gwych iddynt hwy, ‘roedd ganddynt hwythau eu rhan i’w wneud tuag at sylweddoli’r addewid. I’r drain a’r mieri ddiflannu, rhaid i bobl Dduw, nawr fel erioed, blannu pethau gwell o lawer. Heb hynny, drain a mieri fydd rhan byd, cymdeithas a chymuned. Os nad yw pobl Dduw yng Nghrist yn plannu ffydd, gobaith a chariad, bydd drain a mieri yn parhau i rwygo a briwio pobl ymhell ac agos.
 ninnau, bellach wrth Fwrdd y Cymundeb, cawsom gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Aethpwyd â'r Cymun Teithiol heno i Nansi.
Heno, yn 1957, lansiwyd y lloeren gyntaf oll: Sputnik 1. Beth wnelo’r ffaith hon â Swper yr Arglwydd? Aeth y Gweinidog yn ei flaen i esbonio. Ystyr Sputnik yw ‘Cyd-deithiwr’. Iesu yw ein Sputnik ninnau. Mae Iesu’n cydgerdded â ni. Pan yw’r ffordd yn droellog, y mae Iesu yn nerth ac yn arweinydd i ni. Pan yw’n calonnau’n drist, mae Iesu, ein Sputnik, wrth law i’n cynnal a’n calonogi. Pan mae’r daith yn hawdd, â ninnau’n anghofio amdano, nid yw ef yn anghofio amdanom ni. Pan grwydrwn oddi ar y ffordd, mae Iesu yn ein dilyn, ac yn tywys yn ôl i’r ffordd na fydd yn loes i mi (Salm 139:24).
Addoli, moli a chymuno: bendith a gafwyd. Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion: Rhiannon yn arwain yr Oedfa Gynnar Foreol, ein Gweinidog yn parhau gyda’i gyfres o bregethau ar Efengyl Marc a’r flwyddyn 70, gan ganolbwyntio ar 12:35-37. Am 6yh, ein braint fydd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys Ebeneser, Caerdydd. Pregethir gan y Parchedig Ddr R. Alun Evans (Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg). Boed bendith.