Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri... (Eseia 55: 13a)
Pobl Iesu Grist ydym a chyflawni gwaith Iesu Grist yn y byd yw amcan ein bodolaeth. Beth yw’r gwaith hwnnw? Newid y byd. Ni wyddom sut i wneud hynny. Ceir awgrym o sut ym mhroffwydoliaeth Eseia: Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri... (Eseia 55:13a) ...gwaith Iesu, a gwaith pobl Iesu oedd, ac yw, cael ffynidwydd i dyfu yn lle drain, a myrtwydd yn lle mieri.
...yn lle drain. Nid oes mawr o werth i ddrain; dyna pam y defnyddir drain fel darlun o’r hyn sydd ddiwerth...pethau anodd, lletchwith a phigog bywyd. Daeth Iesu i fynd i’r afael â’r drain, i ganol yr hyn oll sy’n bigog, lletchwith ac anodd yn ein byd. Os felly, cwbl ymarferol yw Efengyl Iesu Grist; oesol gyfoes, perthnasol a chyfan gwbl angenrheidiol. Pan edrychodd Eseia, a gweld o bell y Gwaredwr yn dod, soniodd y proffwyd, nid am flodau ond am ddrain a mieri. Er mor hyfryd blodau, drain yw’r drafferth. Rhaid sôn am ddrain...mae drain o’n cwmpas, mewn pobl eraill ac ynom ni. Nid oes gwerth mewn Efengyl sydd yn flodau i gyd. Yn wir, gwyddom mai newyddion da yw Efengyl Iesu Grist gan fod yr Efengyl honno’n sôn am ddrain. Mae bywyd yn llawn o bethau miniog, pigog...o brofiadau sy’n crafu, rwygo, clwyfo a chreithio. Gwyddom hefyd fod Iesu’n Waredwr, oherwydd ei fod yn sefyll gyda ni yng nghanol drain y byd a mieri bywyd.
...yn lle drain. Lle bu’r diwerth yn tyfu, mae’r gwerthfawr bellach yn ffynnu. Lle bu dolur, gwaed a chraith, ceir cymorth, cysur ac eli. Braf y freuddwyd o fyd a bywyd heb ddrain ond breuddwyd ydyw! Breuddwydiwr ffôl oedd Iesu Grist! Onid oes rhaid derbyn mai pigog ydym, a bywyd yn ddreiniog? Tyf drain a ffynnant ym mhob man ac ym mhawb. Onid oes rhaid felly dysgu derbyn fod drain yn rhan annatod o fywyd? Er mor ddealladwy yw hyn, ni ddylid ac ni ellir cytuno â hyn. Nid breuddwydiwr oedd Iesu Grist ac nid breuddwyd yr Efengyl. Nid drain mohonom ninnau chwaith ac nid drain yw bywyd. Gwyddom hyn oherwydd dywed Eseia fod ffynidwydd yn tyfu yn lle drain. Bydd y drain yn gwywo pan fydd y ffynidwydd yn ffynnu. Mae tyfiant y da, yn sicrhau fod y drwg yn crino. Dyma sut, fel erioed, mae Iesu a phobl Iesu’n newid y byd. Y drain yw’r hyn oll sy’n ddrwg amdanom ac yn wyrgam am ein hymwneud â’n gilydd. Y ffynidwydd a’r myrtwydd yw’r hyn oll sydd yn dda ynom, amdanom a rhyngom. Nid lladd y drain yw’r gamp i Bobl Iesu. Gwaith bach - gweinidogaeth ddiflas a chenhadaeth grebachlyd - yw dileu’r drwg. Nid dod i ladd drain a wnaeth Iesu ond dod, yn hytrach, i blannu cariad, a thyfu ffynidwydd ffydd a myrtwydd gobaith. Lle tyf y defnyddiol, mae’r annefnyddiol yn gwywo. Mae egwyddor y da yn gwthio’r drwg o’r neilltu yn gwbl allweddol i weinidogaeth Iesu. Yn y Bregeth ar y Mynydd, ychydig iawn o sôn sydd am y drain. Yn hytrach, sonnir am flodau, ffrwyth a chynnydd. Dewis sôn am ffynidwydd a myrtwydd a wnaeth Iesu: Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd...y rhai sy’n galaru...y rhai addfwyn... (Mathew 5: 2-5) Trecha di ddrygioni â daioni meddai Paul (Rhufeiniaid 12:21b). Pam? Gall neb fynd i’r afael â’r drain a’r mieri, heb fod ganddynt weledigaeth o ffynidwydd a myrtwydd yn tyfu a ffynnu. Cawsom ddarn o dir i’n meddiant a’n gwaith cyntaf yw ceisio symud o’r tir hwnnw cymaint o bethau diwerth a niweidiol a phosibl: gwaith anodd a diflas. Cofier, er mor fodlon y byddwn o weld y tir yn lanach a mwy taclus, nid bywyd taclus a glân yw’r gamp i Bobl Iesu. Nid digon gwaredu’r drain a’r mieri. Mae’r tir yn lân, er mwyn i ni gael plannu planhigyn, blodyn a llysieuyn. Y weledigaeth a ddylai ein cynnal yw nid darn o dir glân, ond darn o dir llawn lliw, bywyd, maeth a chynhaliaeth. Go brin y medrwn newid y byd ond gallwn newid ein byd, ac mae newid ein byd bychan ni yn un cam tuag at newid y byd mawr.
...yn lle drain. Nid cadw’r drain o dan reolaeth yw ein gwaith; yn hytrach, gwthiwn y drain o’r neilltu. Ffydd, gobaith a chariad yn tyfu yn lle casineb, anobaith a diflastod. Bu ein pwyslais ar beidio gwneud pethau. Mae ffydd yn Nuw yn mynnu ein bod yn gwneud yr hyn sydd dda, yn hytrach na dim ond ymatal rhag gwneud yr hyn sydd ddrwg. Bu’n rhaid i Iesu wisgo coron o ddrain i wthio’r drain o’r neilltu. I dynnu’r drain o’r pridd, rhaid cydio ynddynt; amhosibl dileu drain heb waedu. I Fethlehem, a phob cam o Fethlehem i Olgotha, cerddodd Iesu trwy’r drain at ochr hen elyn (Pa Beth yw Dyn? gan Waldo Williams (1904-1971) yn Dail Pren; Gomer, Argraffiad Newydd 1991). Boed yn bersonol, neu fel eglwys, yn genedlaethol neu’n fyd-eang, gall neb dynnu draenen o’r pridd heb afael ynddi. Gwnawn ninnau hynny gan gredu yn yr hwn a wynebodd a ddioddefodd gwaethaf ein gwaethaf, gan gredu yng nghorau ein gorau: ffynidwydd a’r myrtwydd yn lle mieri a drain.