Házisárkány
Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Hwngareg: házisárkány. Yn llythrennol, cyfieithir házisárkány yn ‘y ddraig’ ‘dan do’. Cymar lletchwith pigog felly yw házisárkány.
Yr oedd Dafydd yn gwisgo effod liain a dawnsiai â’i holl egni o flaen yr ARGLWYDD, wrth iddo ef a holl dŷ Israel hebrwng arch yr ARGLWYDD â banllefau a sain utgorn. Pan gyrhaeddodd arch yr ARGLWYDD Ddinas Dafydd, yr oedd Michal merch Saul yn edrych drwy’r ffenestr, a gwelodd y brenin Dafydd yn neidio a dawnsio o flaen yr ARGLWYDD, a dirmygodd ef yn ei chalon (2 Samuel 6: 14-16).
Dafydd druan! ‘Roedd ganddo házisárkány! ‘Roedd ganddo ddraig yn byw o dan ei do: Michal. Ond, rhag gwneud cam â Michal, dylid ystyried ei phrofiad. Mae’r stori’n dechrau yn 1 Samuel 18:17-30. ‘Roedd Michal, merch ieuengaf Saul, wedi syrthio mewn cariad â’i arwr ifanc, Dafydd. Gwelodd Saul ei gyfle. Os oedd Dafydd am briodi Michal, ‘roedd angen rhodd briodas - cant o flaengrwyn! Syniad a bwriad Saul oedd peri i Dafydd farw ar faes y gad. Llwyddodd Dafydd a phriododd Michal. ‘Roedd cenfigen Saul yn prysur droi’n gasineb.
Un noson danfonodd Saul filwyr i amgylchynu tŷ Dafydd a Michal. Rhybuddiodd Michal ei gŵr, a thwyllo’i thad a’i filwyr gan roi amser i Dafydd ddianc (1 Samuel 19). O dipyn i beth penderfynodd Saul dorri’r briodas: Yr oedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, a fu’n wraig i Ddafydd, i Palti fab Lais (1 Samuel 25:44). Yn wleidyddol, ‘roedd y peth yn gwneud synnwyr. Yn gweld ei deyrnas yn gwywo, symudodd Saul fôr a mynydd i sicrhau’r orsedd i’w fab Jonathan.
Ond bu farw Saul a Jonathan ar faes y gad; hawliodd Dafydd yr orsedd wag. Erbyn hyn ‘roedd Michal yn byw yn ddiogel a dedwydd gyda Palti yn Nheyrnas y Gogledd. Yma, ’roedd Ishbosheth, mab Saul yn teyrnasu. Mynnodd Dafydd gael Michal yn ôl a’i chymryd oddi wrth Palti. "Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hol ..." (2 Samuel 3:16). Mae’r geiriau hyn yn mynegi’n gryno poen a gofid y gwahanu. Naturiol, felly, yw’r chwerwedd sydd mor amlwg yn yr adnodau uchod o 2 Samuel 6. Do, ‘roedd gan Dafydd házisárkány! ‘Roedd ganddo ddraig yn byw o dan ei do: Michal. Ond, er tegwch i Michal, ni allasai Dafydd hau drain a disgwyl medi grawnwin! Mae awdur Llyfrau Samuel, wrth ddisgrifio berw a chyffro esgyniad Dafydd i’r orsedd, yn ein hannog i gofio fod cariad a bywyd pobl fel Michal a Palti wedi syrthio i fagl gwleidyddiaeth grym y cyfnod.
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)