Yn ein Hoedfa Foreol bydd Owain yn dechrau ar gyfres newydd o bregethau: ‘Newyddion Da'r Pregethwr’. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw'r cwbl. Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul? (Pregethwr 1:2)
Newyddion da? Pa newyddion da sydd yma? Mae neges y Pregethwr - ei newyddion da - yng nghudd yn y cymal bach: dan yr haul. Cyfrinach byw yn ddedwydd dan yr haul yw cydnabod yr Hwn sydd y tu hwnt i’r haul! Os am wybod rhagor, dewch â chroeso bore Sul am 10:30. Cynhelir Ysgol Sul.
Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.
Liw nos (18:00), o’r diwedd, o’r hir ddiwedd, cawn gyfle i ail-gydio yn y gyfres: ‘Tirweddau Gweddi’. ‘Rydym eisoes wedi ystyried yr Ardd a’r Mynydd; Glan Môr, y Goedwig a’r Anialwch. Nos Sul, testun ein sylw yw’r Afon. (Eseciel 47:1-12)
Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.
Methu dod i’r Oedfaon? Ymunwch â ni trwy gyfrwng negeseuon trydar @MinnyStreet #AddolwnEf Dechrau toc wedi 10:30/18:00.