'BETHANIA': ESTHER

Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Esther, i bennod 8 a 9.

Esther 8

Dyma un o rannau pwysicaf y stori. Cais Esther dynnu’n ôl y gorchymyn a roddwyd i ddifetha’r Iddewon. Mae’r brenin yn caniatáu hyn a rhagor: ... ysgrifennwch chwi fel y mynnoch ynglŷn â’r Iddewon yn fy enw i ... (Esther 8:8). Mordecai sydd yn paratoi'r wŷs (ad.9), ac mae’r hawl i ddial yn amlwg ynddo (ad.13). Amlygir perygl hyn oll mewn ychydig eiriau cynnil ar ddiwedd y bennod: ... yr oedd llawer o bobl y wlad yn mynnu mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon. Cyfnewidiwyd arswyd Haman am arswyd yr Iddewon (ad.17). Dyma un o negeseuon pwysicaf y stori, neges sydd yn aml yn ddi-sôn-amdani.

Pregethai Joseff Jenkins un nos Sadwrn tua throad yr hen ganrif yn Dinorwig yn Arfon. Eisteddai’r gweinidog - John Puleston Jones, yn y Sêt fawr. ‘Sut yr oeddynt yn meiddio rhoddi coron o ddrain ar ei ben? Sut gallent boeri yn ei wyneb a’i watwar? Sut nad oedd ganddynt moi ofan E? Fe’i gwelsant yn iachau’r cleifion, ac yn codi’r meirw. Pe gwelech chi, bobl Dinorwig yma ddyn yn gwneud pethau felly - buasai gennych ormod o’i ofan i boeri yn ei wyneb. Ie, ond gwybod yr oeddynt na allai Ef daro’n ôl! ‘Roedd wedi ei hoelio i’r groes! Ni allai daro’n ôl!’

Cododd Puleston ar ei draed - a rhoddodd ochenaid fawr dros y capel. Ymhen blynyddoedd wele Puleston yn ysgrifennu am yr Iawn. ‘Mi ath yn benbleth trwy lysoedd y fagddu pan ddaeth yr Oen i’r maes. ‘Mi dy laddwn i di’, meddai Pechod. ‘Wel i gael fy lladd y deuais i i’r byd’ meddai’r Oen. Mi ddeil yr Oen ati nes bydd cyrn y bwystfil wedi treulio i’r bôn, a’i ewinedd wedi gwisgo i’r byw. Byddaf yn meddwl fod gelynion Iesu Grist wedi ei nabod yn well na’i ddisgyblion.’

Esther 9

Daeth y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis: y dydd arswydus. Beth wnâi'r Iddewon? Yr oedd rhai o gefnogwyr Haman o hyd yn fyw. 500 o leiaf yn y ddinas ei hun. Yr oedd llawer mwy ohonynt yn y wlad yn barod i ailafael yn ei orchymyn. A ddylai Mordecai a’i gyd-Iddewon eistedd yn dawel i weld llofruddio eu gwragedd a’u plant, a chael eu lladd eu hunain? Daeth y sawl a ormeswyd yn ormeswyr. Lladdwyd tua 15,000 o bobl i gyd yn y deyrnas.

Mae’r awdur yn cyfiawnhau hyn oll gyda’r ddadl mai amddiffyn eu hunain oeddent (ad.16), ac fe gais cadarnhau hynny trwy ddefnyddio un cymal, trosodd a thro, (10 o weithiau yn y bennod hon): ... heb gyffwrdd â’r ysbail.

Hanes gwaedlyd, yn wir yw hwn. Gyda datguddiad uwch a rhagorach yr Efengyl i’n harwain, tybed a fyddem ni wedi ymddwyn yn well?

A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau. (Effesiaid 4:32)