Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar dan arweiniad Owain (12/5 am 9:30 yn y Festri). ‘Y Pell yn Agos: yr Agos yn Bell’ fydd thema’r Oedfa hon! Dewch â chroeso i gael deall mor bwysig yw gweld y pell yn agos, a’r agos yn bell i fywyd, cenhadaeth a gwasanaeth yr eglwys leol. Bydd cyfle i gyfrannu tuag at GYMORTH CRISTNOGOL yn oedfaon y dydd a bydd hefyd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd. Bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) parhawn â’r gyfres ‘Newyddion Da y Pregethwr’. Trown y tro hwn at yr ychydig adnodau sydd yn gorwedd yng nghysgod y pennawd trwm: Profiad y Pregethwr. (1:12-18) Bu’r Pregethwr y ddyfal a dygn wrth astudio. Gellid ond parchu’r ymdrech i chwilio trwy ddoethineb, y cyfan sy’n digwydd dan yr haul. Yn wir, daeth llwyddiant o fath: ... cefais brofi llawer o ddoethineb a gwybodaeth ... do ... ond, mae’r Pregethwr yn ychwanegu: ... a chanfûm nad oedd hyn ond ymlid gwynt. Mae’r ymdrech i ddeall a dehongli yn ofer. Cymuned onest yw’r eglwys brydferth; pobl yn llwyr a llawn sylweddoli fod ein gwybodaeth o Dduw yn tyfu dim ond wrth gydnabod ein hanallu i wybod amdano. Bydd cyfle eto i gyfrannu tuag at Gymorth Cristnogol yn yr Oedfa hon a bydd hefyd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd.
Liw nos, am 18:00; da fydd ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Crwys (Heol Richmond). Pregethir gan y Parchedig Athro John Tudno Williams (Aberystwyth). Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street. Hyfrydwch, fel eglwysi’r ddinas, yw cael y cyfle i gyd-addoli a chyd-dystio. Duw a fo’n blaid i ni gyd yn ein gweinidogaeth.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Nos Fawrth (14/5; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Esther’. Trown at y bennod olaf nos Fawrth. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (15/5): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Prynhawn Iau (16/5; 12:15-13:30) Cyfle i glywed newyddion diweddaraf Cymorth Cristnogol drwy law John Rowlands (Cadeirydd dros dro Pwyllgor Cenedlaethol Cymorth Cristnogol yng Nghymru) dros ginio ysgafn (£5 yr un tuag at Cymorth Cristnogol) yn festri Eglwys y Crwys (Heol Richmond). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.
Babimini bore Gwener (17/5; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Dydd Sadwrn (18/5): Cyfundeb Dwyrain Morgannwg - Taith Gerdded "Heddwch yn y Ddinas" yng nghwmni Jon Gower (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).